18.—(1) Unrhyw daliad a wnaed yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(1) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(2) ac eithrio—LL+C
(a)taliad a wnaed yn lle cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, budd-dal analluogrwydd, lwfans anabledd difrifol neu lwfans cyflogaeth a chymorth;
(b)taliad o lwfans y cyfeirir ato yn adran 2(3) o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2(5) o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990; neu
(c)taliad y bwriedir iddo ddiwallu’r costau byw sy’n ymwneud ag un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2) tra bo ceisydd yn ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu gynllun arall i helpu’r ceisydd i wella’i ragolygon cyflogaeth, oni bai bod y taliad yn Fenthyciad Datblygu Gyrfa a delir yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1973, a chyfnod yr addysg neu hyfforddiant neu’r cynllun, a gynorthwyir gan y benthyciad hwnnw, wedi ei gwblhau.
(2) Yr eitemau a bennir yn yr is-baragraff hwn at ddibenion is-baragraff (1)(c) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 9 para. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)