19.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw rai o’r taliadau canlynol—LL+C
(a)taliad elusennol;
(b)taliad gwirfoddol;
(c)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraff (a) neu (b)) a wnaed gan ymddiriedolaeth y mae ei chyllid yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd;
(d)taliad o dan flwydd-dal a brynwyd—
(i)yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd; neu
(ii)o gyllid sy’n deillio o daliad a wnaed,
o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd; neu
(e)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d)) a dderbyniwyd yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd.
(2) Rhaid peidio â chymhwyso is-baragraff (1) i daliad a wnaed neu sy’n ddyladwy gan—
(a)cyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner unrhyw aelod o deulu’r ceisydd; neu
(b)rhiant plentyn neu berson ifanc pan fo’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw’n aelod o deulu’r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 9 para. 19 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)