26. Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref a pherson arall, nad yw’n berson y cyfeirir ato ym mharagraff 25 neu 27 hefyd yn meddiannu’r annedd honno, a rhwymedigaeth dan gontract i wneud taliadau i’r ceisydd mewn perthynas â meddiannu’r annedd gan y person arall hwnnw neu aelod o’i deulu—LL+C
(a)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â meddiannu’r annedd, gan y person hwnnw neu aelod o’i deulu, neu gan y person hwnnw ac aelod o’i deulu, yn llai nag £20, y cyfan o’r swm hwnnw; neu
(b)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn £20 neu’n fwy yr wythnos, £20.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 9 para. 26 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)