Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 9

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Schedule 9:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rheoliad 33(2)

ATODLEN 9LL+CSymiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

1.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw ofal plant, teithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

2.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

3.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

4.  Unrhyw swm a dalwyd ar gyfer treth ar incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan baragraff 17 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 9 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

5.  Unrhyw daliad mewn perthynas ag unrhyw dreuliau a dynnwyd neu sydd i’w tynnu gan geisydd—LL+C

(a)a gymerwyd ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu

(b)sy’n wirfoddolwr,

os nad yw’r ceisydd hwnnw, fel arall, yn cael unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu elw o’r gyflogaeth ac na thrinnir ef fel pe bai’n meddu unrhyw enillion o dan baragraff 19(5) o Atodlen 6 (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 9 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

6.  Unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 9 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

7.  Yn achos cyflogaeth fel enillydd cyflogedig, unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau a dynnir yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 9 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

8.  Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, y cyfan o incwm y ceisydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 9 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

9.  Pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl cyd-hawliad yn yr ystyr o “joint-claim couple” at ddibenion Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 a phartner y ceisydd yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, y cyfan o incwm y ceisydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 9 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

10.  Os oedd gan y ceisydd, neu’r person a oedd yn bartner y ceisydd ar 31 Mawrth 2003, yr hawl, ar y dyddiad hwnnw i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, ond daeth yr hawl honno i ben ar neu cyn 5 Ebrill 2003 yn rhinwedd, yn unig, rheoliad 13 o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) Diwygio (Rhif 3) 1999(1) fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw, y cyfan o incwm y ceisydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 9 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

11.  Unrhyw lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, neu TALlA.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 9 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

12.  Unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu oherwydd methiant i dalu—LL+C

(a)unrhyw daliad a bennir ym mharagraff 11 neu 14;

(b)cymhorthdal incwm;

(c)lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(d)lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 9 para. 12 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

13.  Unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(2) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(3) neu unrhyw daliad y bwriedir iddo ddigolledu am fethiant i dalu atodiad o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 9 para. 13 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

14.  Unrhyw lwfans gweini.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 9 para. 14 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

15.  Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr neu unrhyw daliad cyfatebol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 9 para. 15 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

16.—(1Unrhyw daliad—LL+C

(a)ar ffurf lwfans cynhaliaeth addysg a wnaed yn unol ag—

(i)rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996(4) (talu treuliau ysgol; dyfarnu ysgoloriaethau etc);

(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 49 neu 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(5) (pŵer i gynorthwyo personau i fanteisio ar gyfleusterau addysg);

(iii)cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992(6);

(b)cyfatebol i lwfans cynhaliaeth addysg o’r fath, a wnaed yn unol ag—

(i)adran 14 neu adran 181 o Ddeddf Addysg 2002(7) (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg neu ofal plant, a lwfansau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant); neu

(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 181 o’r Ddeddf honno; neu

(c)yng Nghymru a Lloegr, ar ffurf cymorth ariannol a wnaed yn unol ag adran 14 o Ddeddf Addysg 2002.

(2Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo, a wnaed yn unol ag—

(a)rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996;

(b)rheoliadau a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980; neu

(c)cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992,

mewn perthynas â chwrs astudio a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc neu berson sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg neu daliad arall a wnaed yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 9 para. 16 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

17.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd ar ffurf ad-daliad o dan reoliad 11(2) o Reoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyriwr Athrawon) (Ad-dalu etc) 2003(8).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 9 para. 17 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

18.—(1Unrhyw daliad a wnaed yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(9) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(10) ac eithrio—LL+C

(a)taliad a wnaed yn lle cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, budd-dal analluogrwydd, lwfans anabledd difrifol neu lwfans cyflogaeth a chymorth;

(b)taliad o lwfans y cyfeirir ato yn adran 2(3) o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2(5) o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990; neu

(c)taliad y bwriedir iddo ddiwallu’r costau byw sy’n ymwneud ag un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2) tra bo ceisydd yn ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu gynllun arall i helpu’r ceisydd i wella’i ragolygon cyflogaeth, oni bai bod y taliad yn Fenthyciad Datblygu Gyrfa a delir yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1973, a chyfnod yr addysg neu hyfforddiant neu’r cynllun, a gynorthwyir gan y benthyciad hwnnw, wedi ei gwblhau.

(2Yr eitemau a bennir yn yr is-baragraff hwn at ddibenion is-baragraff (1)(c) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 9 para. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

19.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw rai o’r taliadau canlynol—LL+C

(a)taliad elusennol;

(b)taliad gwirfoddol;

(c)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraff (a) neu (b)) a wnaed gan ymddiriedolaeth y mae ei chyllid yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd;

(d)taliad o dan flwydd-dal a brynwyd—

(i)yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd; neu

(ii)o gyllid sy’n deillio o daliad a wnaed,

o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd; neu

(e)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d)) a dderbyniwyd yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd.

(2Rhaid peidio â chymhwyso is-baragraff (1) i daliad a wnaed neu sy’n ddyladwy gan—

(a)cyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner unrhyw aelod o deulu’r ceisydd; neu

(b)rhiant plentyn neu berson ifanc pan fo’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw’n aelod o deulu’r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 9 para. 19 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

20.  Yn ddarostyngedig i baragraff 40, £10 o unrhyw rai o’r canlynol, sef—LL+C

(a)pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y diystyrir pensiwn o’r fath o dan baragraff 13 neu 14);

(b)pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

(c)pensiwn sy’n daladwy i berson sy’n wraig neu ŵr gweddw neu’n bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw un o bwerau Ei Mawrhydi ac eithrio deddfiad, i wneud darpariaeth ynghylch pensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;

(d)taliad incwm gwarantedig, ac os yw swm y taliad hwnnw wedi ei leihau islaw £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(11), cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrir, yn fwy na £10;

(e)taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad o’r fath a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;

(f)pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;

(g)pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 9 para. 20 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

21.  Yn ddarostyngedig i baragraff 40, £15 o unrhyw—LL+C

(a)lwfans mam weddw a dalwyd yn unol ag adran 37 o DCBNC;

(b)lwfans rhiant gweddw a dalwyd yn unol ag adran 39A o DCBNC.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 9 para. 21 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

22.—(1Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf y mae gan y ceisydd fuddiant llesiannol ynddo, neu y trinnir y ceisydd o dan baragraff 32 o Atodlen 6 (cyfalaf a ddelir ar y cyd) fel pe bai ganddo fuddiant llesiannol ynddo ond, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 4, 5, 7, 11, 17 neu 30 i 33 o Atodlen 10.LL+C

(2Incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 5, 7 neu 30 i 33 o Atodlen 10, ond i’r graddau canlynol yn unig—

(a)unrhyw ad-daliadau morgais a wneir mewn perthynas â’r annedd neu’r fangre yn y cyfnod pan oedd yr incwm hwnnw’n cronni; neu

(b)unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd yn atebol i’w thalu neu i’w talu mewn perthynas â’r annedd neu’r fangre ac a delir yn y cyfnod pan oedd yr incwm hwnnw’n cronni.

(3Mae’r diffiniad o “taliadau dŵr” (“water charges”) yn rheoliad 2(1) yn gymwys i is-baragraff (2) o’r paragraff hwn gan hepgor y geiriau “, i’r graddau y mae a wnelo’r cyfryw daliadau â’r annedd a feddiennir gan berson fel ei gartref”.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 9 para. 22 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

23.  Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—LL+C

(a)o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(12), dyfarniad y myfyriwr hwnnw;

(b)o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(13), bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu

(c)benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,

swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 9 para. 23 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

24.—(1Pan fo’r ceisydd yn rhiant myfyriwr sydd o dan 25 oed, mewn addysg uwch, a naill ai—LL+C

(a)ddim yn cael unrhyw ddyfarniad, grant na benthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r addysg honno; neu

(b)yn cael dyfarniad a roddir yn rhinwedd Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, neu fwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall o dan adran 49(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, neu daliad o dan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno,

a’r ceisydd yn gwneud taliadau i gyfrannu tuag at gynnal y myfyriwr, ac eithrio cyfraniad rhiant sy’n dod o fewn paragraff 23, swm a bennir yn is-baragraff (2) mewn perthynas â phob wythnos yn ystod tymor y myfyriwr.

(2At ddibenion is-baragraff (1), bydd y swm yn hafal i—

(a)swm wythnosol y taliadau; neu

(b)y swm ar gyfer lwfans personol i geisydd sengl sydd o dan 25 oed llai swm wythnosol unrhyw ddyfarniad, bwrsari, ysgoloriaeth, lwfans neu daliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),

pa un bynnag yw’r lleiaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 9 para. 24 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

25.  Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd gan blentyn neu berson ifanc neu annibynnydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 9 para. 25 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

26.  Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref a pherson arall, nad yw’n berson y cyfeirir ato ym mharagraff 25 neu 27 hefyd yn meddiannu’r annedd honno, a rhwymedigaeth dan gontract i wneud taliadau i’r ceisydd mewn perthynas â meddiannu’r annedd gan y person arall hwnnw neu aelod o’i deulu—LL+C

(a)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â meddiannu’r annedd, gan y person hwnnw neu aelod o’i deulu, neu gan y person hwnnw ac aelod o’i deulu, yn llai nag £20, y cyfan o’r swm hwnnw; neu

(b)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn £20 neu’n fwy yr wythnos, £20.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 9 para. 26 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

27.  Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety, swm, mewn perthynas â phob person y darperir llety o’r fath iddo am y cyfan neu unrhyw ran o wythnos, sy’n hafal i—LL+C

(a)pan nad yw swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag un wythnos mewn perthynas â llety o’r fath a ddarperir i berson o’r fath yn fwy nag £20, 100 y cant o’r cyfryw daliadau;

(b)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn fwy nag £20, £20 a 50 y cant o’r swm dros ben £20.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 9 para. 27 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

28.—(1Unrhyw incwm mewn nwyddau neu wasanaethau, ac eithrio pan fo paragraff 17(10)(b) o Atodlen 6 (darpariaeth o gymorth o dan adran 95 neu 98 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(14) wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) yn gymwys.LL+C

(2Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at “incwm mewn nwyddau neu wasanaethau” (“income in kind”) yn cynnwys taliad a wneir i drydydd parti mewn perthynas â’r ceisydd ac a ddefnyddir gan y trydydd parti i ddarparu buddion ar ffurf nwyddau neu wasanaethau i’r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 9 para. 28 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

29.  Unrhyw incwm sy’n daladwy mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ystod y cyfryw gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r incwm hwnnw i’r Deyrnas Unedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 9 para. 29 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

30.—(1Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd mewn perthynas â pherson sy’n aelod o deulu’r ceisydd—LL+C

(a)yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(15) neu’n unol â chynllun a gymeradwywyd gan Weinidogion yr Alban o dan adran 71 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007(16) (cynlluniau lwfansau mabwysiadu);

(b)sy’n daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 15(1) o Ddeddf Plant 1989(17) a pharagraff 15 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (cyfraniad awdurdod lleol at gynhaliaeth plentyn pan fo’r plentyn yn byw gyda pherson o ganlyniad i orchymyn preswylio) neu, yn yr Alban, adran 50 o Ddeddf Plant 1975(18) (taliadau tuag at gynhaliaeth plant);

(c)sy’n daliad a wneir gan awdurdod, fel y’i diffinnir yn erthygl 2 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(19), yn unol ag erthygl 15 o’r Gorchymyn hwnnw a pharagraff 17 o Atodlen 1 iddo (cyfraniad gan awdurdod at gynhaliaeth plentyn);

(d)yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig).

(2Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, a wnaed i’r ceisydd yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 9 para. 30 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

31.  Unrhyw daliad a wnaed i geisydd y lletywyd person gydag ef yn rhinwedd trefniadau a wnaed—LL+C

(a)gan awdurdod lleol o dan—

(i)adran 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt),

(ii)adran 26 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(20) (dull o ddarparu llety i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol), neu

(iii)rheoliad 33 neu 51 o Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009(21) (lwfansau maethu a gofal gan berthynas a lwfansau maethu); neu

(b)gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety gan sefydliadau gwirfoddol).

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 9 para. 31 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

32.  Unrhyw daliad, a wnaed i’r ceisydd neu bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”), nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond sydd yng ngofal y ceisydd dros dro, gan—LL+C

(a)awdurdod iechyd;

(b)awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wnaed mewn perthynas â’r person dan sylw;

(c)sefydliad gwirfoddol;

(d)y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(22);

(e)ymddiriedolaeth gofal sylfaenol a sefydlwyd o dan adran 16A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(23) neu a sefydlwyd drwy orchymyn a wnaed o dan adran 18(2)(c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(24); neu

(f)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(25).

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 9 para. 32 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

33.  Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol ag adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989(26) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (darparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd a chyngor a chymorth i blant penodol).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 9 para. 33 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

34.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol yn unol ag adran 23C o Ddeddf Plant 1989 neu adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (dyletswydd awdurdodau lleol i hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cymorth ariannol i bersonau sydd, neu a fu, yn eu gofal) i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd.LL+C

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys ac eithrio pan fo A—

(a)wedi bod gynt yng ngofal y ceisydd, a

(b)yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac

(c)yn parhau i fyw gyda’r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 9 para. 34 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

35.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad a gafwyd o dan bolisi yswiriant a drefnwyd i yswirio rhag y risg o fod yn analluog i gynnal yr ad-daliadau—LL+C

(a)ar fenthyciad a sicrhawyd ar yr annedd a feddiennir gan y ceisydd fel cartref y ceisydd; neu

(b)o dan gytundeb rheoleiddiedig yn yr ystyr o “regulated agreement” fel y’i diffinnir at ddibenion Deddf Credyd Defnyddwyr 1974(27) neu o dan gytundeb hurbwrcas neu gytundeb gwerthiant amodol yn yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “hire-purchase agreement” a “conditional sale agreement” fel y’u diffinnir at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Hurbwrcas 1964(28).

(2Ni chaniateir diystyru taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) ac eithrio i’r graddau nad yw’r taliad a gafwyd o dan y polisi hwnnw yn fwy na’r symiau, a gyfrifir ar sail wythnosol, a ddefnyddir i—

(a)cynnal yr ad-daliadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, (1)(b); a

(b)talu unrhyw swm sy’n ddyladwy ar ffurf premiymau ar—

(i)y polisi hwnnw; neu

(ii)mewn achos pan fo is-baragraff (1)(a) yn gymwys, polisi yswiriant a drefnwyd i yswirio rhag colled neu ddifrod i unrhyw adeilad, neu ran o adeilad, a feddiennir gan y ceisydd fel cartref y ceisydd, ac sy’n ofynnol fel amod o’r benthyciad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 9 para. 35 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

36.  Unrhyw daliad o incwm sydd i’w drin fel cyfalaf yn rhinwedd paragraff 27 o Atodlen 6 (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 9 para. 36 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

37.  Unrhyw—LL+C

(a)taliad cronfa gymdeithasol a wnaed yn unol â Rhan 8 o DCBNC ( y gronfa gymdeithasol); neu

(b)cymorth achlysurol.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 9 para. 37 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

38.  Unrhyw daliad o dan Ran 10 o DCBNC (bonws Nadolig i bensiynwyr).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 9 para. 38 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

39.  Pan wneir taliad o incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 9 para. 39 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

40.  Ni chaiff y cyfanswm o incwm ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, incwm y teulu ac incwm unrhyw berson y trinnir y ceisydd hwnnw fel pe bai’n ei feddu o dan baragraff 7(3) o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod) sydd i’w ddiystyru o dan baragraff 5(2)(b) a pharagraff 6(1)(d) o Atodlen 11 (cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniad, incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniad), paragraff 9(2) o Atodlen 11 (trin benthyciadau myfyriwr), paragraff 11(3) o Atodlen 11 (trin taliadau o gronfeydd mynediad) a pharagraffau 20 ac 21, mewn unrhyw achos fod yn fwy nag £20 yr wythnos.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 9 para. 40 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

41.—(1Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).LL+C

(2Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)partner neu gyn-bartner y person hwnnw nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw;

(b)unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(3Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, ar yr amod nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru neu, os oedd y partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ffurfio partneriaeth sifil, nad yw’r bartneriaeth sifil wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, nad oedd wedi ei diddymu ar yr adeg y digwyddodd y farwolaeth, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys;

(b)unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(4Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd, neu a fu, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad i naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn neu’n berson ifanc neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes gan y person hwnnw riant neu lys-riant, i warcheidwad y person hwnnw,

ond hynny am y cyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.

(5Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (y dyddiad perthnasol) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn neu’n berson ifanc neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd gan y person hwnnw riant neu lys-riant, i warcheidwad y person hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.

(6Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw incwm sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.

(7At ddibenion is-baragraffau (2) i (6), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr Ymddiriedolaethau fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, a Chronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 9 para. 41 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

42.  Unrhyw fudd-dal tai.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 9 para. 42 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

43.  Unrhyw daliad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddigolledu am golli (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yr hawlogaeth i gael budd-dal tai.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 9 para. 43 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

44.  Unrhyw daliad i reithiwr neu dyst mewn perthynas â phresenoldeb mewn llys, ac eithrio digollediad am golli enillion neu golli budd-dal sy’n daladwy o dan y Deddfau budd-dal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 9 para. 44 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

45.  Unrhyw daliad o ganlyniad i ostyngiad yn y dreth gyngor o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992 (gostyngiad atebolrwydd am dreth gyngor).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 9 para. 45 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

46.—(1Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir—LL+C

(a)o ran Lloegr, o dan reoliad 5, 6 neu 12 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 2003(29) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(b)o ran Cymru, o dan reoliad 5, 6 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(30) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(c)o ran yr Alban, o dan reoliad 3, 5 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Yr Alban) (Rhif 2) 2003(31) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd).

(2Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Gweinidogion yr Alban neu Weinidogion Cymru sy’n gyfatebol i daliad neu ad-daliad a grybwyllir yn is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 9 para. 46 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

47.  Unrhyw daliad a wneir i’r cyfryw bersonau sydd â hawl i gael buddion fel y penderfynir gan neu o dan gynllun a wnaed yn unol ag adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988(32) yn lle talebau neu drefniadau cyffelyb mewn cysylltiad â darparu’r buddion hynny (gan gynnwys taliadau a wneir yn lle talebau cychwyn iach, talebau llaeth neu gyflenwi fitaminau).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 9 para. 47 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

48.  Unrhyw daliad a wneir gan naill ai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder neu Weinidogion yr Alban o dan gynllun a sefydlwyd i gynorthwyo perthnasau a phersonau eraill i ymweld â phersonau a gedwir yn y ddalfa.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 9 para. 48 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

49.—(1Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, ac eithrio cynhaliaeth plant, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan gyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner partner y ceisydd.LL+C

(2At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.

(3At ddibenion is-baragraff (1) rhaid trin taliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn lle cynhaliaeth fel pe bai’n daliad o gynhaliaeth a wnaed gan berson a bennir yn is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 9 para. 49 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

50.—(1Unrhyw daliad o gynhaliaeth plant a wneir gan, neu sy’n deillio o, berthynas atebol pan fo’r plentyn neu berson ifanc y gwneir y taliad mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd, ac eithrio pan wneir y taliad gan y ceisydd neu bartner y ceisydd.LL+C

(2Yn is-baragraff (1)—

ystyr “cynhaliaeth plant” (“child maintenance”) yw unrhyw daliad tuag at gynhaliaeth plentyn neu berson ifanc, gan gynnwys unrhyw daliad a wneir yn wirfoddol a thaliadau a wneir o dan—

(a)

Deddf Cynnal Plant 1991(33);

(b)

Gorchymyn Cynnal Plant (Gogledd Iwerddon) 1991(34);

(c)

gorchymyn llys;

(d)

gorchymyn cydsynio;

(e)

cytundeb cynhaliaeth a gofrestrwyd ar gyfer ei weithredu yn Llyfrau’r Cyngor a’r Sesiwn neu yn llyfrau’r llysoedd siryf;

ystyr “perthynas atebol” (“liable relative”) yw person a restrir yn y diffiniad o “liable relative” yn rheoliad 54 (dehongli) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(35), ac eithrio person sy’n dod o fewn is-baragraff (d) o’r diffiniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 9 para. 50 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

51.  Unrhyw daliad (ac eithrio lwfans hyfforddi) a wneir, boed gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson arall, o dan Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1944(36) i gynorthwyo personau anabl i gael neu gadw cyflogaeth er gwaethaf eu hanabledd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 9 para. 51 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

52.  Unrhyw lwfans gwarcheidwad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 9 para. 52 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

53.—(1Os yw’r ceisydd yn cael unrhyw fudd-dal o dan Ran 2, 3 neu 5 o DCBNC, unrhyw gynnydd yng nghyfradd y budd-dal hwnnw sy’n digwydd o dan Ran 4 (cynnydd ar gyfer dibynyddion) neu adran 106(a) (atodiad i’r anghyflogadwy) o’r Ddeddf honno, pan nad yw’r dibynnydd y telir y cynnydd mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd.LL+C

(2Os yw’r ceisydd yn cael unrhyw bensiwn neu lwfans o dan Ran 2 neu 3 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(37), unrhyw gynnydd yng nghyfradd y pensiwn neu lwfans hwnnw o dan y Gorchymyn hwnnw, pan nad yw’r dibynnydd y telir y cynnydd mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 9 para. 53 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

54.  Unrhyw bensiwn atodol o dan erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi) ac unrhyw daliad cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i unrhyw berson nad yw’n berson sydd â hawl o dan y Gorchymyn hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 9 para. 54 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

55.  Yn achos pensiwn a ddyfarnwyd ar y gyfradd atodol o dan erthygl 27(3) o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(38) (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi), y swm a bennir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 4 i’r Cynllun hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 9 para. 55 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

56.—(1Unrhyw daliad—LL+C

(a)a wneir o dan unrhyw un o’r Offerynnau Dosbarthu i wraig neu ŵr gweddw, neu bartner sifil sy’n goroesi person—

(i)yr oedd ei farwolaeth i’w phriodoli i wasanaeth mewn swyddogaeth gyfatebol i wasanaeth fel aelod o luoedd arfog y Goron; a

(ii)y terfynodd ei wasanaeth yn y cyfryw swyddogaeth cyn 31 Mawrth 1973; a

(b)yn hafal i’r swm a bennir yn erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006.

(2Yn y paragraff hwn ystyr “yr Offerynnau Dosbarthu” (“the Dispensing Instruments”) yw Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881, Y Warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884 a’r Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922 (dyfarniadau eithriadol o dâl, tâl aneffeithiol a lwfansau).

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 9 para. 56 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

57.  Unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod y mae hawl gan y ceisydd i’w gael.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 9 para. 57 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

58.  Ac eithrio mewn achos sy’n dod o dan is-baragraff (1) o baragraff 18 o Atodlen 8, pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, unrhyw swm o gredyd treth gwaith i fyny at £17.10.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 9 para. 58 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

59.  Unrhyw daliad a wneir o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(39), neu o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd) neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(40) (taliadau uniongyrchol).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 9 para. 59 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

60.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mewn perthynas â pherson sy’n cael, neu sydd wedi cael, cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, unrhyw daliad i’r person hwnnw—LL+C

(a)i dalu treuliau a dynnwyd yn gyfan gwbl ac yn angenrheidiol tra’n ymgymryd â’r gweithgaredd masnachol;

(b)a ddefnyddiwyd, neu a fwriadwyd i’w ddefnyddio, i gynnal ad-daliadau ar fenthyciad a gymerwyd gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol,

y ceir neu y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef.

(2Mae is-baragraff (1) yn gymwys yn unig mewn perthynas â thaliadau a delir i’r person hwnnw allan o’r cyfrif arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 9 para. 60 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

61.—(1Unrhyw daliad o ddyfarniad chwaraeon ac eithrio i’r graddau y’i gwnaed mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2).LL+C

(2Yr eitemau a bennir at ddibenion is-baragraff (1) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.

(3At ddibenion is-baragraff (2) nid yw “bwyd” (“food”) yn cynnwys fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau dietegol arbennig eraill a fwriedir ar gyfer gwella perfformiad y person yn y gamp y gwnaed y dyfarniad mewn perthynas â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 9 para. 61 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

62.  Pan fo swm y lwfans cynhaliaeth a delir i berson mewn wythnos ostyngiad yn fwy na swm y lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r person hwnnw wedi ei gael yn yr wythnos ostyngiad pe bai wedi bod yn daladwy i’r person hwnnw llai 50c, y swm dros ben hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 9 para. 62 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

63.  Yn achos ceisydd sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth, unrhyw daliad disgresiynol a wneir gan gontractwr parth cyflogaeth i’r ceisydd, boed ar ffurf ffi, grant, benthyciad neu rywfodd arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 9 para. 63 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

64.  Unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001(41).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 9 para. 64 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

65.  Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru, i neu ar ran y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir i ddatblygu neu gynnal gallu’r ceisydd neu bartner y ceisydd i fyw’n annibynnol yn llety’r ceisydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 9 para. 65 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

66.  Unrhyw daliad o fudd-dal plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 9 para. 66 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources