Hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru
19.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i awdurdod yng Nghymru sy’n ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod yn cyflenwi iddynt ba bynnag wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad ac y gofynnir amdani ganddynt hwy at y diben o arfer, neu benderfynu a ddylid arfer, unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â chynlluniau.
(2) Rhaid i’r awdurdod gyflenwi’r wybodaeth y gofynnir amdani os yw’r wybodaeth yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, a rhaid iddo wneud hynny yn y cyfryw ffurf a modd ac yn y cyfryw amser a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Os yw awdurdod yn methu â chydymffurfio â pharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaeth ar sail pa bynnag ragdybiaethau ac amcangyfrifon yr ystyriant yn briodol.
(4) Wrth arfer, neu benderfynu a ddylid arfer, unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â chynlluniau, caiff Gweinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth hefyd unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael, o ba bynnag ffynhonnell, pa un a gafwyd yr wybodaeth honno o dan ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw Ddeddf neu a wnaed odanynt, ai peidio.