49.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni’r amod ym mharagraff (2) ac nad yw’n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.
(2) Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod odano.
(4) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r cwrs hwnnw’n gwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sy’n parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.
(5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r cwrs hwnnw—
(a)sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009; a
(b)sy’n arwain at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
(6) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (d)(i) o’r diffiniad o “myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn” yn rheoliad 2 hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’n bodloni’r amod ym mharagraff (2) ac nad yw wedi ei wahardd gan baragraff (3).
(7) Rhaid trin myfyriwr cymwys y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael benthyciad at gostau byw.
(8) Mae paragraff (7) yn gymwys i’r canlynol—
(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
(b)myfyriwr cymwys anabl—
(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac
(c)myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.
(9) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’r myfyriwr cymwys yn garcharor.
(10) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 49 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
50. Cyfrifir uchafswm y benthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—
(a)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn, yn unol â rheoliad 51;
(b)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, yn unol â rheoliadau 52 a 53;
(c)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio, yn unol â rheoliad 54;
(d)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011, yn unol â rheoliad 55.
(e)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol, yn unol â rheoliad 56.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 50 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
51.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn, hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yw, i fyfyriwr o’r fath—
(a)yng nghategori 1, £3,987;
(b)yng nghategori 2, £7,215;
(c)yng nghategori 3, £6,140;
(d)yng nghategori 4, £6,140;
(e)yng nghategori 5, £5,150.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn, hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yw, i fyfyriwr o’r fath—
(a)yng nghategori 1, £3,608;
(b)yng nghategori 2, £6,570;
(c)yng nghategori 3, £5,340;
(d)yng nghategori 4, £5,340;
(e)yng nghategori 5, £4,771.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 51 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
52.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw’n fyfyriwr carfan newydd (ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, y mae ei gyfraniad yn uwch na dim).
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
yng nghategori 1, yn £4,027;
yng nghategori 2, yn £7,288;
yng nghategori 3, yn £6,202;
yng nghategori 4, yn £6,202;
yng nghategori 5, yn £5,202;
Y yn swm y grant cynhaliaeth.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
yng nghategori 1, yn £3,645;
yng nghategori 2, yn £6,636;
yng nghategori 3, yn £5,394;
yng nghategori 4, yn £5,394;
yng nghategori 5, yn £4,819;
Y yn swm y grant cynhaliaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw—
(a)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 42 i gael swm o grant cynhaliaeth nad yw’n fwy na £1,329, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy;
(b)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 42 i gael swm o grant cynhaliaeth sy’n fwy na £1,329 , £1,329; ac
(c)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, dim.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 52 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
53.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 neu i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ei gyfraniad yn uwch na dim.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o’r fath—
(a)yng nghategori 1, £4,027;
(b)yng nghategori 2, £7,288;
(c)yng nghategori 3, £6,202;
(d)yng nghategori 4, £6,202;
(e)yng nghategori 5, £5,202.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o’r fath—
(a)yng nghategori 1, £3,645;
(b)yng nghategori 2, £6,636;
(c)yng nghategori 3, £5,394;
(d)yng nghategori 4, £5,394;
(e)yng nghategori 5, £4,819.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 53 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
54.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
yng nghategori 1, yn £4,027;
yng nghategori 2, yn £7,288;
yng nghategori 3, yn £6,202;
yng nghategori 4, yn £6,202;
yng nghategori 5, yn £5,202;
Y yn swm y grant cynhaliaeth.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
yng nghategori 1, yn £3,645;
yng nghategori 2, yn £6,636;
yng nghategori 3, yn £5,394;
yng nghategori 4, yn £5,394;
yng nghategori 5, yn £4,819;
Y yn swm y grant cynhaliaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—
(a)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 43 i gael swm o grant cynhaliaeth, y swm sy’n hafal i £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,580;
(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 43, dim.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 54 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
55.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
yng nghategori 1, yn £4,027;
yng nghategori 2, yn £7,288;
yng nghategori 3, yn £6,202;
yng nghategori 4, yn £6,202;
yng nghategori 5, yn £5,202;
Y yn swm y grant cynhaliaeth.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
yng nghategori 1, yn £3,645;
yng nghategori 2, yn £6,636;
yng nghategori 3, yn £5,394;
yng nghategori 4, yn £5,394;
yng nghategori 5, yn £4,819;
Y yn swm y grant cynhaliaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—
(a)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 44 i gael swm o grant cynhaliaeth, mae’r swm y mae hwnnw’n hafal iddo yn £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,580;
(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 44, dim.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 55 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
56.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—
(a)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(a), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
(i)yng nghategori 1, yn £1,912;
(ii)yng nghategori 2, yn £3,583;
(iii)yng nghategori 3, yn £2,548;
(iv)yng nghategori 4, yn £2,548;
(v)yng nghategori 5, yn £2,548.
(b)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(b) neu 28(7), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
(i)yng nghategori 1, yn £1,912;
(ii)yng nghategori 2, yn £3,583;
(iii)yng nghategori 3, yn £3,048;
(iv)yng nghategori 4, yn £3,048;
(v)yng nghategori 5, yn £2,548.
(c)os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
yng nghategori 1, yn £3,020;
yng nghategori 2, yn £5,466;
yng nghategori 3, yn £4,652;
yng nghategori 4, yn £4,652;
yng nghategori 5, yn £3,902;
Y yw’r swm penodedig ym mharagraff (d).
(d)y swm penodedig yw—
(i)£664, os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;
(ii)£1,329, os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;
(iii)dim, pan nad yw’r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—
(a)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(a), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
(i)yng nghategori 1, yn £1,452;
(ii)yng nghategori 2, yn £2,739;
(iii)yng nghategori 3, yn £1,986;
(iv)yng nghategori 4, yn £1,986;
(v)yng nghategori 5, yn £1,986.
(b)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(b) neu 28(7), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
(i)yng nghategori 1, yn £1,452;
(ii)yng nghategori 2, yn £2,739;
(iii)yng nghategori 3, yn £2,227;
(iv)yng nghategori 4, yn £2,227;
(v)yng nghategori 5, yn £1,986.
(c)os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
yng nghategori 1, yn £2,734;
yng nghategori 2, yn £4,978;
yng nghategori 3, yn £4,046;
yng nghategori 4, yn £4,046;
yng nghategori 5, yn £3,614;
Y yw’r swm penodedig ym mharagraff (d).
(d)y swm penodedig yw—
(i)£664 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;
(ii)£1,329 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;
(iii)dim, pan nad fo’r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 56 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
57.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) yn preswylio yng nghartref ei rieni a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni A ei gynnal oherwydd oedran, analluedd neu reswm arall ac y byddai’n briodol i swm y benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr mewn categori ac eithrio categori 1 fod yn gymwys yn achos A, rhaid trin A fel pe na bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 57 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
58.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 60, mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o’r flwyddyn academaidd.
(2) Nid yw benthyciad at gostau byw yn daladwy—
(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, mewn perthynas â’r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;
(b)mewn unrhyw achos arall, mewn perthynas â’r chwarter y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 58 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
59. Os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un o’r categorïau yn rheoliad 63 yn ystod y flwyddyn academaidd—
(a)uchafswm y benthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad at gostau byw am bob chwarter y mae’r benthyciad yn daladwy mewn perthynas ag ef;
(b)uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac
(c)y categori sy’n gymwys i chwarter yw—
(i)y categori y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn am y cyfnod hwy neu hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu
(ii)os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â’r gyfradd uchaf o fenthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 59 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
60.—(1) Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â’r chwarteri hynny o’r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.
(2) Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.
(4) Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy’n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn.
(5) Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 60 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
61.—(1) Os yw’n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 51 i 55 am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn, i fyfyriwr o’r fath:
(a)yng nghategori 1, £61;
(b)yng nghategori 2, £116;
(c)yng nghategori 3, £126;
(d)yng nghategori 4, £126;
(e)yng nghategori 5, £91.
(2) Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod nad yw’n llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 51 i 55 am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr cymwys yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 61 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
62.—(1) Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn o’r benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliad 67.
(2) Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol o dan reoliad 67.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 62 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
63. Yn y Rhan hon—
(a)mae myfyriwr yng nghategori 1―
(i)yn ddarostyngedig i reoliad 57, os yw’r myfyriwr yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs; neu
(ii)os dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2009 a’r myfyriwr yn aelod o urdd grefyddol ac yn byw yn un o dai’r urdd honno;
(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a’r myfyriwr yn bresennol ar un neu ragor o’r canlynol—
(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;
(ii)cwrs mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu
(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r profiad gwaith hwnnw neu’r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;
(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw’r myfyriwr, fel rhan o’i gwrs, yn bresennol mewn sefydliad tramor, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus;
(d)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 a’i fod yn mynychu’r Athrofa;
(e)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4;
(f)“myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;
(g)“myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn” (“old system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;
(h)rhaid dehongli “rhiant” (“parent”), ac eithrio pan ddynodir yn wahanol, yn unol â pharagraff 1(1)(f) o Atodlen 5;
(i)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;
(j)“myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys—
(i)nad yw’n gymwys i gael grant at gostau byw mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 28(3)(a) neu (b) neu reoliad 28(7); neu
(ii)sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;
(k)os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw’r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 63 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)