- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
110.—(1) Penderfynir y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Mae’r swm sy’n daladwy yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw’r astudio.
Cyfrifir y dwysedd astudio, a mynegir ef fel canran, fel a ganlyn:
ac y mae i PT ac FT yr ystyron a roddir iddynt gan reoliad 97(2) a (3).
(3) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os yw’r dwysedd astudio—
(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.
(4) At ddibenion paragraff (3), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a benderfynir yn unol â rheoliad 106 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 109.
(5) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os yw’r dwysedd astudio—
(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.
(6) At ddibenion paragraff (5), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a benderfynir yn unol â rheoliad 106 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 109.
(7) Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os yw’r dwysedd astudio—
(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.
(8) At ddibenion paragraff (7), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a benderfynir yn unol â rheoliad 106 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 109.
(9) Nid oes unrhyw elfen o’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn daladwy pan fo’r dwysedd astudio yn llai na 50 y cant.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: