xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol ym mhob achos—
(a)pan fo’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
(b)pan fo’r myfyriwr cymwys yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol, pa un a yw’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;
(c)pan nad oes gan y myfyriwr cymwys riant yn fyw;
(d)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na ellir dod o hyd i’r naill neu’r llall o rieni’r myfyriwr cymwys neu nad yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r naill na’r llall ohonynt;
(e)pan nad yw’r myfyriwr cymwys wedi cyfathrebu â’r naill na’r llall o’i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;
(f)os bu’r myfyriwr cymwys dan ofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(1) a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;
(g)os yw rhieni’r myfyriwr cymwys yn preswylio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni naill ai—
(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu
(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8 neu 9;
(h)pan fo paragraff 5(10) yn gymwys a lle mae’r rhiant y barnodd Gweinidogion Cymru mai’r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);
(i)pan ddechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2009 ac yntau’n aelod o urdd grefyddol sy’n preswylio yn un o dai’r urdd honno;
(j)pan fo’r myfyriwr cymwys yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu
(k)pan fo’r myfyriwr cymwys (“A” yn yr is-baragraff hwn) wedi cynnal ei hun o’i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda’i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff rhaid trin A fel pe bai’n cynnal ei hun o’i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—
(i)pan oedd A yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi’r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau’r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);
(ii)pan oedd A yn cael budd-dal sy’n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i’w gyflogi ond sy’n ddi-waith;
(iii)pan oedd A ar gael i’w gyflogi a’i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau’r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;
(iv)pan oedd gan A efrydiaeth y wladwriaeth(2) neu ddyfarniad tebyg; neu
(v)pan oedd A yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.
(2) Mae myfyriwr cymwys sy’n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(j) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw’r statws hwnnw tra pery’r cyfnod cymhwystra.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
1989 p.41; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), adran 2, Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), adran 116(2), Deddf Plant 2004 (p.31), adran 52 a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23), adran 39 ac Atodlen 3.
Darperir cyllid gan y Cynghorau Ymchwil o ran astudio ôl-radd llawnamser.