xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 12LL+CCYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – y cyfrifiad terfynolLL+C

110.—(1Penderfynir y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Mae’r swm sy’n daladwy yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw’r astudio.

ac y mae i PT ac FT yr ystyron a roddir iddynt gan reoliad 97(2) a (3).

(3Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os yw’r dwysedd astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.

(4At ddibenion paragraff (3), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a benderfynir yn unol â rheoliad 106 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 109.

(5Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os yw’r dwysedd astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.

(6At ddibenion paragraff (5), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a benderfynir yn unol â rheoliad 106 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 109.

(7Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os yw’r dwysedd astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.

(8At ddibenion paragraff (7), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a benderfynir yn unol â rheoliad 106 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 109.

(9Nid oes unrhyw elfen o’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn daladwy pan fo’r dwysedd astudio yn llai na 50 y cant.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 110 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)