Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: Adran 114

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 10/01/2014.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Trosglwyddo statwsLL+C

114.—(1Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo o gwrs rhan-amser dynodedig i gwrs rhan-amser dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Y seiliau dros drosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig arall yn yr un sefydliad;

(b)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl cychwyn cwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc yn yr un sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’n trosglwyddo iddo y cymorth o dan y Rhan hon y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i’w gael mewn perthynas â’r cwrs y mae’n trosglwyddo oddi wrtho.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy’n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â’r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi wrtho, ond cyn i’r myfyriwr rhan-amser cymwys gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 97(1)(b), rheoliad 99, rheoliad 100 neu reoliadau 101 i 110 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo.

(6Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo o dan baragraff (1) o gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, uchafswm y cymorth o dan reoliad 97(1)(a) mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo neu oddi wrtho yw swm y cymorth at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sydd â’r dwysedd astudio uchaf fel y’i diffinnir yn rheoliad 97.

(7Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn trosglwyddo o dan baragraff (1) o gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan reoliad 98 mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo neu oddi wrtho yw’r swm sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sy’n denu’r swm uchaf o fenthyciad newydd at ffioedd rhan-amser yn unol â rheoliad 98(3) i (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 114 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources