RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD

PENNOD 3BENTHYCIADAU CYFRANNU AT FFIOEDD A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Benthyciadau cyfrannu at ffioedd (i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn)22

1

Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig—

a

os oes ganddo hawl i gael grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno neu os byddai wedi bod yn gymwys pe byddai wedi gwneud cais am y grant (hyd yn oed pe byddai swm y grant wedi bod yn ddim); a

b

os darperir y cwrs dynodedig gan neu ar ran sefydliad a oedd yn cael ei ariannu’n gyhoeddus ar 1 Awst 2005.

2

Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant ar gyfer ffioedd ac am fenthyciad cyfrannu at ffioedd, swm y benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig yw’r swm y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, a hwnnw’n swm nad yw’n fwy na’r swm a ddidynnwyd o’i grant ar gyfer ffioedd yn unol â rheoliad 67.

3

Os benthyciad cyfrannu at ffioedd yw’r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—

a

y swm y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, a hwnnw’n swm nad yw’n fwy na £1,380 neu, os oes unrhyw rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £680, os yw’r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban; neu

b

y swm y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano a hwnnw’n swm nad yw’n fwy na £1,425 neu, os oes unrhyw rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £700, os yw’r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon.

4

Caiff myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd—

a

os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd dim ynghynt) sydd wedi ei hysbysu i’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu fel arall; a

b

os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd bod y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn—

i

wedi methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae ganddo hawl i’w gael; neu

ii

rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.

5

Nid yw’r swm ychwanegol ym mharagraff (4), o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm wedi ei gynyddu.

6

Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad cyfrannu at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.