RHAN 6LL+CBENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newyddLL+C

53.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 neu i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ei gyfraniad yn uwch na dim.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o’r fath—

(a)yng nghategori 1, £4,027;

(b)yng nghategori 2, £7,288;

(c)yng nghategori 3, £6,202;

(d)yng nghategori 4, £6,202;

(e)yng nghategori 5, £5,202.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o’r fath—

(a)yng nghategori 1, £3,645;

(b)yng nghategori 2, £6,636;

(c)yng nghategori 3, £5,394;

(d)yng nghategori 4, £5,394;

(e)yng nghategori 5, £4,819.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 53 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)