RHAN 10TALIADAU
Taliadau – dehongli75
Yn y Rhan hon—
a
ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yw cadarnhad mewn ysgrifen gan yr awdurdod academaidd—
i
bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—
aa
pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;
bb
pan fo gan y myfyriwr cymwys anabledd; ac
cc
pan fo’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â’r cwrs ond nad yw’n bresennol ar y cwrs (pa un a yw’r rheswm am beidio â bod yn bresennol yn ymwneud â’i anabledd ai peidio);
ii
bod y myfyriwr cymwys wedi bod yn bresennol yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu’r cwrs—
aa
pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;
bb
pan nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; ac
cc
nad yw is-baragraff (i)(cc) yn gymwys;
iii
bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—
aa
a hynny am dro heblaw’r tro cyntaf; neu
bb
am y tro cyntaf wedi i statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i’r cwrs hwnnw o gwrs arall yn yr un sefydliad;
b
ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn talu mewn perthynas ag ef y cymorth perthnasol o dan Ran 5 neu Ran 6 neu y byddent wedi talu’r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys wedi dod i ben.