xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 11LL+CCYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Cyrsiau dysgu o bell dynodedigLL+C

78.—(1Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 76 os dynodir ef gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—

(a)bod y cwrs yn cael ei restru yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)bod y cwrs yn gwrs llawnamser;

(c)bod y cwrs yn parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;

(d)nad yw’n ofynnol gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs bod myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn bresennol ar y cwrs; ac

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (5), dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3At ddibenion penderfynu a yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(d) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—

(a)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—

(i)cofrestru neu ymrestru;

(ii)arholiad;

(b)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

(c)unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad sy’n darparu’r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw’n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad hwnnw.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a

(b)os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu’r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.

(5Mae cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn gwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs hwnnw yn unol â rheoliad 87 o gwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012; a

(b)pe byddai’r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 78 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)