RHAN 2CYMHWYSTRA

Trosglwyddo statws8

1

Os yw myfyriwr cymwys yn trosglwyddo o gwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

a

os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;

b

os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

c

os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

2

Y seiliau trosglwyddo yw—

a

bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi’r gorau i un cwrs dynodedig ac yn dechrau―

i

bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad;

ii

yn ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig arall yn yr un sefydliad; neu

iii

yn ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn yr un sefydliad;

b

bod y myfyriwr cymwys yn dechrau―

i

bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu

ii

ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig mewn sefydliad arall;

c

ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;

d

ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu

e

ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd), bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc yn y sefydliad.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) hawl i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y bydd y myfyriwr yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth a asesir gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r cwrs y bydd y myfyriwr yn trosglwyddo ohono.

4

Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn ar ôl y trosglwyddiad.

5

Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu’r cymorth a gaiff y myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo ohono ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo, am grant neu fenthyciad arall o’r math y mae’r myfyriwr cymwys eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo ohono oni ddarperir ar gyfer hynny fel arall.