xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 12LL+CCYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Myfyrwyr rhan-amser cymwysLL+C

93.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd o’r myfyriwr â chwrs rhan-amser dynodedig, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru, wrth iddynt asesu cais y person hwnnw am gymorth o dan reoliad 111, yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)os nad yw’r person wedi ei hepgor gan baragraff (3).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—

(a)os rhoddwyd neu os talwyd i A mewn perthynas ag ymgymryd ohono â’r cwrs rhan-amser dynodedig—

(i)bwrsari gofal iechyd, pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007; neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy’i ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw A yn garcharor.

(4Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

(5At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, oni fydd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991, a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,

ni fydd paragraff (3)(c) yn gymwys.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) i (11), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (8)(a) neu (b).

(8Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod―

(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs rhan-amser presennol; a

(iii)statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys heb ei derfynu;

(b)bod—

(i)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen fod y person—

(aa)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig;

(bb)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig ac eithrio’r cwrs rhan-amser presennol; neu

(cc)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig;

(ii)statws y person fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs rhan-amser presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a

(iv)statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys heb ei derfynu.

(9Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant, yn ôl fel y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(10Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd honno, os na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(11Nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu’n fyfyriwr cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(12Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 97(1)(b), rheoliad 99, rheoliad 100 neu reoliadau 101 i 110 os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano.

(13Yn ddarostyngedig i baragraffau (14) a (15), mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth—

(a)o dan reoliad 97(1)(a) os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru; neu

(b)o dan reoliadau 97(1)(b), 100 neu 101 i 110 os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.

(14Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 110 mewn perthynas â chwrs dysgu o bell rhan-amser, oni bai bo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(15Ni fydd gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl bellach i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 110 mewn perthynas â chwrs dysgu o bell rhan-amser os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(16Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 99 neu reoliadau 101 i 110 os yw—

(a)wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014 am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a’i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (17); neu

(b)wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2014 am gyfanswm o un mlynedd ar bymtheg a’i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (17).

(17Y benthyciadau a’r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (16) yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi ei roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi ei roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.

(18Yn ddarostyngedig i baragraffau (19) ac (20), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 99 neu reoliadau 101 i 110 os oes gan y myfyriwr radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(19At ddibenion paragraff (18), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—

(a)os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a

(b)os yw’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs rhan-amser presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).

(20Nid yw paragraff (18) yn rhwystro myfyriwr rhan-amser cymwys rhag bod â hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 99 neu reoliadau 101 i 110—

(a)os yw’r cwrs rhan-amser presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010;

(b)os yw’r cwrs yn parhau am ddim mwy na phedair blynedd; ac

(c)os nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig.

(21Ni chaiff fyfyriwr rhan-amser cymwys yr hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth—

(a)ar gyfer mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;

(b)ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;

(d)ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 93 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)