RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
Cyfnod cymhwystraI196
1
Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig oni ddaw’r statws hwnnw i ben yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 93.
2
Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).
3
Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 93, mae’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.
4
Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys (“A” yn y paragraff hwn)—
a
yn tynnu’n ôl o gwrs rhan-amser dynodedig A o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu drosi, neu ni fyddant yn trosglwyddo nac yn trosi, statws A o dan reoliad 114 neu 115; neu
b
yn cefnu ar ei gwrs rhan-amser dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.
5
Mae’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’n dod yn amhosibl i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd, gwblhau’r cwrs rhan-amser dynodedig o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 95(1)(c) hyd yn oed pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dwysáu ei astudio.
6
Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys (“A” yn y paragraff hwn), ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy’i ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.
7
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
a
terfynu’r cyfnod cymhwystra;
b
penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rhan hon;
c
trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 121.
8
Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben—
a
cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau’r cwrs rhan-amser dynodedig ynddi; a
b
ac eithrio o dan baragraff (5),
caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.