Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013

Grant newydd at gyrsiau rhan-amserLL+C

99.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs rhan-amser dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.

(2Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant newydd at gyrsiau rhan-amser mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw dwysedd yr astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 50 y cant.

(3At ddibenion paragraff (2) mae dwysedd yr astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 97(2) a (3).

(4Uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser at ddibenion paragraff (5) yw £1,155.

(5Cyfrifir swm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser sy’n daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig fel a ganlyn—

(a)mae uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn daladwy pan fo gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd, ar ddyddiad y cais am y grant, hawlogaeth—

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor;

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i lwfans o dan y trefniadau a elwir y Fargen Newydd;

(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;

(iv)i gredyd cynhwysol; neu

(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

(b)mae uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn daladwy pan fo’r incwm perthnasol yn llai na £26,095;

(c)pan fo’r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180 swm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser sy’n daladwy yw’r swm a adewir yn dilyn didynnu o uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;

(d)mae grant newydd at gyrsiau rhan-amser o £50 yn daladwy pan fo’r incwm perthnasol yn £28,180;

(e)nid oes grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gael pan fo’r incwm perthnasol yn fwy na £28,180.

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd gyfrifoldeb rhiant amdano;

(b)ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu mewn perthynas â hi ar gyfer grant newydd at gyrsiau rhan-amser o dan y rheoliad hwn;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw yn ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(d)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ar ei gyfer at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

(e)ystyr “incwm” (“incwm”) yw incwm gros o bob ffynhonnell ac eithrio—

(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a

(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfernir yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;

(iii)person sy’n byw fel arfer gyda myfyriwr rhan-amser cymwys newydd fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;

(g)ni thrinnir person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) fel partner—

(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw’r person yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;

(h)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(i)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7).

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn hafal i adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(a)£2,000 mewn perthynas â phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;

(b)£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd; ac

(c)£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd.

(8Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy nag adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu ragor, rhaid iddynt asesu adnoddau’r myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(9Yn y rheoliad hwn ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ar gyfer y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm incwm ar gyfer y flwyddyn honno unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais am grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn bartner i’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 99 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)