Cynnal cyrsiau

Ffioedd am gyrsiau8.

(1)

Isafswm y ffi y caiff darparwr cwrs ei gwneud yn ofynnol bod person yn ei thalu am fod yn bresennol ar gwrs yw £150. Uchafswm y ffi y caiff darparwr cwrs ei gwneud yn ofynnol bod person yn ei thalu am fod yn bresennol ar gwrs yw £250.

(2)

Caiff darparwr cwrs godi'r ffi presenoldeb naill ai ymlaen llaw neu mewn rhandaliadau.

(3)

Rhaid i'r ffi presenoldeb gael ei thalu'n llawn cyn i'r person sy'n dilyn y cwrs ei gwblhau.