1992 p.13; mewnosodwyd adran 20(2A) gan adran 49 o Ddeddf Addysg 2011 (p.21) a pharagraffau 1 a 5 o Atodlen 12 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 21(1) gan adran 140 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 35(a) o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd Atodlen 4 gan Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2011.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 21(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac Atodlen 4 i'r Ddeddf honno (i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
2000 p.21; diwygiwyd adran 39 gan adran 47 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1) a pharagraffau 1-3 o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw.
1992 p.13; diwygiwyd adran 28 gan adrannau 112, 143(1) a 153 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) ac Atodlen 11 i'r Ddeddf honno, adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 38 o Atodlen 30 i'r Ddeddf honno, adran 582(1) o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) a pharagraff 109 o Atodlen 37 i'r Ddeddf honno, a pharagraff 5(1) a (2) o Atodlen 2 i Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158).
Ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn, y darpariaethau deddfwriaethol sy'n ymwneud â dyfarnu person yn fethdalwr yw adran 264 o Ddeddf Ansolfedd 1986 (p.45) fel y'i diwygiwyd gan adran 170(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) ac Atodlen 16 i'r Ddeddf honno, ond ar yr adeg y gwnaed y Rheoliadau hyn nid oedd y darpariaethau hynny eto wedi'u cychwyn, a chan reoliadau 3 a 13 o Reoliadau Deddf Ansolfedd 1986 (Diwygio) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/1240).
Ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn, y darpariaethau deddfwriaethol sy'n esbonio ystyr gorchmynion interim cyfyngu methdaliad ac ymrwymiad cyfyngu methdaliad yw adran 281A o Ddeddf Ansolfedd 1986 ac Atodlen 4A i'r Ddeddf honno.
Ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn, byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i gais o dan adran 375 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Diwygiwyd adran 375 gan adran 106 o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (p.22) ac Atodlen 15 i'r Ddeddf honno.
Penodwyd gan Orchymyn Coleg Cambria (Corffori) 2013 (O.S. 2013/374 (Cy.46)).
1992 p.13; mewnosodwyd adran 22ZA gan adran 49 o Ddeddf Addysg 2011, ac Atodlen 12 i'r Ddeddf honno.
Y dyddiad sefydlu yw 26 Mawrth 2013. Gweler erthygl 2 Orchymyn Coleg Cambria (Corffori) 2013 (O.S. 2013/374 (Cy.46)).
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 20(2A) ac i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (Llywodraethu) 2013, a deuant i rym ar 26 Mawrth 2013.
Rhagnodir Offeryn Llywodraethu Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Rhagnodir Erthyglau Llywodraethu Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
Rheoliad 2
Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn—
ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o'r Gorfforaeth;
ystyr “Cadeirydd” (“Chair”) yw cadeirydd y Gorfforaeth;
ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw Clerc y Gorfforaeth;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddydd Llun, Mawrth, Mercher, Iau neu Gwener, ac eithrio gŵyl banc neu ŵyl gyhoeddus arall;
ystyr “y Gorfforaeth” (“the Corporation”) yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria;
ystyr “Is-gadeirydd” (“Vice-Chair”) yw is-gadeirydd y Gorfforaeth;
ystyr “materion staff” (“staff matters”) yw penodiad, tâl, amodau gwasanaeth, dyrchafiad, israddiad, ymddygiad, atal dros dro, diswyddiad neu ymddeoliad unrhyw aelod o'r staff;
ystyr “myfyriwr” (“student”) yw myfyriwr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad ac mae hefyd yn cynnwys person nad yw am y tro wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad ond sydd ar gyfnod o absenoldeb awdurdodedig o fod wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad at ddibenion astudio neu deithio neu i wneud dyletswyddau unrhyw swydd a ddeil y person hwnnw yn undeb myfyrwyr y sefydliad;
ystyr “Pennaeth” (“Principal”) yw prif weithredwr y sefydliad; ac
ystyr “y sefydliad” (“the institution”) yw Coleg Cambria ac unrhyw sefydliad sy'n cael ei redeg am y tro gan y Gorfforaeth wrth arfer ei phwerau o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992
Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn, mewn perthynas ag aelodau—
mae cyfeiriadau at “categori amrywiol” (“variable category”) yn gyfeiriadau at unrhyw gategori o aelodau y caniateir i'w niferoedd amrywio yn unol â pharagraffau 2 a 4; a
mae i'r termau canlynol yr ystyron a roddir iddynt ym mharagraff 2—
“Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru” (“Welsh Ministers Appointed Members”);
“aelodau awdurdod lleol” (“local authority members”);
“aelodau busnes” (“business members”);
“aelodau cyfetholedig” (“co-opted members”);
“aelodau cymunedol” (“community members”);
“aelodau myfyrwyr” (“student members”);
“aelodau rhieni” (“parent members”); ac
“aelodau staff” (“staff members”).
Rhaid i'r Gorfforaeth gynnwys—
hyd at saith aelod sydd, neu a fu, yn ymwneud â neu'n gyflogedig mewn busnes, diwydiant neu unrhyw broffesiwn neu unrhyw faes arall o waith sy'n berthnasol i weithgareddau'r sefydliad (a gelwir hwy'n “aelodau busnes”);
hyd at dri aelod a gyfetholwyd gan aelodau'r Gorfforaeth (a gelwir hwy'n “aelodau cyfetholedig”);
o leiaf un a hyd at dri aelod sy'n staff wedi'u cyflogi gan y sefydliad ac a enwebwyd gan staff y sefydliad (a gelwir hwy'n “aelodau staff”). Os oes mwy nag un aelod staff, rhaid i o leiaf un aelod staff fod wedi'i gyflogi fel aelod o'r staff addysgu ac wedi'i ethol a'i enwebu ganddynt, a rhaid i o leiaf un aelod staff fod wedi'i gyflogi fel un o aelodau eraill staff y sefydliad ac wedi'i ethol a'i enwebu ganddynt;
o leiaf un a hyd at dri aelod sy'n fyfyrwyr yn y sefydliad ac sydd wedi'u hethol a'u henwebu gan fyfyrwyr y sefydliad neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli myfyrwyr y sefydliad (a gelwir hwy'n “aelodau myfyrwyr”);
hyd at ddau aelod sy'n rhieni i fyfyrwyr o dan 19 mlwydd oed sy'n mynychu'r sefydliad, sydd wedi'u hethol a'u henwebu gan rieni eraill o'r fath neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli rhieni o'r fath (a gelwir hwy'n “aelodau rhieni”);
o leiaf un a hyd at dri aelod a enwebwyd gan awdurdodau lleol a bennir gan y Gorfforaeth (a gelwir hwy'n “aelodau awdurdod lleol”);
o leiaf un a hyd at dri aelod a enwebwyd gan gorff neu gyrff cymunedol yr ymddengys i'r aelodau eraill eu bod yn cynrychioli buddiannau adran o'r gymuned leol a enwebwyd gan yr aelodau eraill (a gelwir hwy'n “aelodau cymunedol”) (at ddibenion y paragraff hwn mae “corff cymunedol” yn cynnwys unrhyw gymdeithas nad yw'n cael ei rhedeg er elw);
Pennaeth y sefydliad (onid yw'r Pennaeth yn dewis peidio â bod yn aelod); ac
hyd at ddau aelod a benodwyd gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau o dan adran 39 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000
Rhaid i unrhyw gwestiwn parthed a yw person yn gymwys yn unol ag is-baragraff (1) i'w benodi'n aelod i unrhyw gategori gael ei benderfynu gan yr awdurdod penodi perthnasol fel a bennir ym mharagraff 4.
Yn ei gyfarfod cyntaf, rhaid i'r Gorfforaeth benderfynu ar—
cyfanswm yr aelodau (ac eithrio unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru); a
nifer yr aelodau ym mhob categori amrywiol.
Caiff y Gorfforaeth ar unrhyw adeg amrywio'r penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac unrhyw benderfyniadau olynol o dan y paragraff hwn.
Rhaid i unrhyw benderfyniad o dan y paragraff hwn sicrhau—
bod nifer yr aelodau, heb gynnwys yr Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru, yn 12 o leiaf ac nid yn fwy nag 20;
bod nifer yr aelodau ym mhob categori amrywiol o fewn y terfynau a osodir ym mharagraff 2; ac
bod nifer yr aelodau busnes yn hafal i draean o gyfanswm yr aelodau, heb gynnwys unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru, wedi ei dalgrynnu i fyny i'r rhif cyflawn agosaf.
Ni chaiff unrhyw benderfyniad o dan y paragraff hwn effaith a fyddai'n terfynu penodiad unrhyw berson sydd eisoes yn aelod ar yr adeg y daw'n effeithiol.
Y Gorfforaeth yw'r awdurdod penodi mewn perthynas â phenodi unrhyw aelod ac eithrio—
Aelod a Benodwyd gan Weinidogion Cymru;
yr aelodau cyntaf, a benodir gan Weinidogion Cymru; ac
os yw nifer yr aelodau yn disgyn islaw'r nifer sy'n ofynnol ar gyfer cworwm, y cyfryw nifer o aelodau sy'n ofynnol ar gyfer cworwm.
Os yw nifer yr aelodau yn disgyn islaw'r nifer sy'n ofynnol ar gyfer cworwm, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod penodi mewn perthynas â phenodiad y nifer hwnnw o aelodau sy'n ofynnol ar gyfer cworwm.
Caiff yr awdurdod penodi wrthod penodi person os bodlonir yr awdurdod—
nad oes gan y person y sgiliau a'r profiad penodedig fel y'u diffinnir yn is-baragraff (4);
bod y person, o fewn y deng mlynedd blaenorol, wedi cael ei symud ymaith o swydd fel aelod o gorfforaeth addysg bellach neu sefydliad a ddynodwyd o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992
y byddai penodi'r person yn groes i unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw reolau neu is-ddeddfau a wnaed o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu;
nad yw'r person yn gymwys i fod yn aelod yn rhinwedd paragraff 7; neu
yn achos person sydd i'w benodi yn aelod busnes, aelod cyfetholedig, aelod awdurdod lleol neu'n aelod cymunedol, bod y Pwyllgor Chwilio (a sefydlwyd o dan erthygl 8 o'r Erthyglau Llywodraethu) wedi cynghori na ddylid penodi'r person.
Yn y paragraff hwn ystyr “y sgiliau a'r profiad penodedig” (“specified skills and experience”) yw'r sgiliau a'r profiad (ac eithrio cymwysterau proffesiynol) a bennir gan y Gorfforaeth eu bod yn briodol i aelodau.
Pan fo swydd unrhyw aelod ac eithrio'r Pennaeth neu Aelod a Benodwyd gan Weinidogion Cymru yn dod yn wag, rhaid i'r Gorfforaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gymryd pob cam angenrheidiol i benodi aelod newydd i lenwi'r swydd wag.
Caiff aelod awdurdod lleol fod yn gynghorydd etholedig o'r awdurdod lleol, yn un o gyflogeion yr awdurdod lleol neu'n unrhyw berson arall a enwebir gan yr awdurdod lleol.
Nid oes dim yn y paragraff hwn yn rhoi'r hawl i'r Gorfforaeth ofyn am fwy nag un enwebiad gan unrhyw un neu ragor o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(1)(c) i (g) i lenwi unrhyw swydd wag unigol.
Rhaid i'r aelodau sy'n bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth a gynhelir cyn penodi Cadeirydd neu Is-gadeirydd am y tro cyntaf o dan is-baragraff (2) ddewis un o'u nifer i weithredu fel cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw.
Rhaid i'r Gorfforaeth benodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd o blith ei haelodau.
Ni chaniateir penodi'r Pennaeth nac unrhyw aelod staff nac unrhyw aelod myfyrwyr yn Gadeirydd nac yn Is-gadeirydd.
Bydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn dal eu swyddi am ba bynnag gyfnod a benderfynir gan y Gorfforaeth.
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os yw'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, rhaid i'r aelodau sy'n bresennol ddewis un o'u plith i weithredu fel cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw.
Caiff y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd ymddiswyddo o'r swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.
Os bodlonir y Gorfforaeth, ar unrhyw adeg, bod y Cadeirydd yn analluog neu'n anaddas i gyflawni swyddogaethau'r Cadeirydd, caiff y Gorfforaeth, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, symud y Cadeirydd o'i swydd.
Os bodlonir y Gorfforaeth, ar unrhyw adeg, bod yr Is-gadeirydd yn analluog neu'n anaddas i gyflawni swyddogaethau'r Is-gadeirydd, caiff y Gorfforaeth, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, symud yr Is-gadeirydd o'i swydd.
Yng nghyfarfod olaf y Gorfforaeth cyn bod tymor swydd y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd yn dod i ben, neu ar ôl i'r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd ymddiswyddo neu gael ei symud o'r swydd, rhaid i'r Gorfforaeth benodi Cadeirydd neu Is-gadeirydd newydd, yn ôl fel y digwydd, o blith ei haelodau.
Mae'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn gymwys i gael eu hail benodi pan ddaw tymor eu swyddi i ben, yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a wnaed o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu ynglŷn â nifer y tymhorau swydd y caiff person wasanaethu drostynt.
Rhaid i'r Gorfforaeth benodi person i wasanaethu fel Clerc, ond ni chaniateir penodi'r Pennaeth yn Glerc.
Yn ddarostyngedig i baragraff 13(9), mae hawl gan y Clerc i fod yn bresennol ym mhob cyfarfod o'r Gorfforaeth a phob cyfarfod o unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth.
Rhaid i'r Gorfforaeth benodi person (ac eithrio'r Pennaeth) i wasanaethau fel Clerc dros dro yn yr amgylchiadau canlynol—
yng nghyfarfod cyntaf y Gorfforaeth pan nad oes person wedi ei benodi i wasanaethu fel Clerc;
pan fo'r Clerc yn absennol dros dro.
Rhaid i'r Clerc gydymffurfio ag unrhyw ofynion ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.
Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Offeryn hwn at y Clerc yn cynnwys Clerc dros dro.
Ni chaiff person o dan 18 mlwydd oed fod yn aelod ac eithrio'n aelod myfyrwyr.
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), ni chaiff person sy'n aelod o'r staff, ac eithrio'r Pennaeth, fod yn aelod ac eithrio'n aelod staff.
Ni chaiff myfyriwr a gyflogir gan y Gorfforaeth mewn cysylltiad â rôl y myfyriwr fel swyddog o undeb y myfyrwyr fod yn aelod ac eithrio'n aelod myfyrwyr.
Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) a (6), ni chaiff myfyriwr yn y sefydliad fod yn aelod ac eithrio'n aelod myfyrwyr.
Ni cheir penodi aelod o'r staff sydd hefyd wedi ymrestru fel myfyriwr rhan-amser yn y sefydliad (ac eithrio person a gyflogir gan y Gorfforaeth mewn cysylltiad â'i rôl fel swyddog o undeb y myfyrwyr) yn aelod ac eithrio fel aelod staff.
Nid yw'n ofynnol i berson, sydd eisoes yn aelod ac eithrio aelod myfyrwyr, ymddiswyddo os bydd y person hwnnw yn ystod tymor y swydd yn ymrestru ar gwrs rhan-amser yn y sefydliad, ond os bydd y person hwnnw yn ymrestru ar gwrs llawn-amser yn y sefydliad, bydd y person hwnnw yn peidio â bod yn aelod.
Ni chaiff y Clerc fod yn aelod.
Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (9) a (10), ni chaiff person fod yn aelod os yw'r person hwnnw wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr
Pan fo person wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod oherwydd ei fod wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr, neu oherwydd ei fod yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad, gorchymyn interim cyfyngu methdaliad neu ymrwymiad cyfyngu methdaliad, daw'r anghymhwysiad hwnnw i ben—
pan ryddheir y person hwnnw o'r methdaliad, oni fydd y gorchymyn methdaliad wedi ei ddiddymu cyn hynny;
os diddymir y gorchymyn methdaliad, ar ddyddiad y diddymiad hwnnw;
os dadwneir y gorchymyn cyfyngu methdaliad
os rhyddheir y gorchymyn interim cyfyngu methdaliad gan y llys, ar y dyddiad y'i rhyddheir; neu
os diddymir yr ymrwymiad cyfyngu methdaliad, ar ddyddiad y diddymiad hwnnw.
Pan fo person wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod oherwydd iddo wneud compownd neu drefniant, gan gynnwys trefniant gwirfoddol unigol, ac yntau wedyn yn talu'r dyledion yn llawn, daw'r anghymhwysiad i ben ar y dyddiad y cwblheir y taliad, ac mewn unrhyw achos arall, daw i ben ar ddiwedd tair blynedd o'r dyddiad y bodlonir telerau'r weithred gompównd, y trefniant neu'r trefniant gwirfoddol unigol.
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (12) ni chaiff person fod yn aelod—
os yw'r person hwnnw, o fewn y pum mlynedd blaenorol, neu ers ei benodi, wedi ei gollfarnu naill ai yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall am unrhyw drosedd ac wedi cael dedfryd o garchar (pa un a ataliwyd y ddedfryd dros dro ai peidio) am gyfnod o dri mis neu fwy heb gael dewis o ddirwy;
os yw'r person hwnnw, o fewn yr 20 mlynedd blaenorol, wedi ei gollfarnu fel a osodir ym mharagraff (a) ac wedi cael dedfryd o garchar am gyfnod o fwy na dwy flynedd a hanner; neu
os yw'r person hwnnw, ar unrhyw adeg, wedi ei gollfarnu fel a osodir ym mharagraff (a) ac wedi cael dedfryd o garchar o bum mlynedd neu fwy.
At ddibenion is-baragraff (11) rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan neu gerbron llys y tu allan i'r Deyrnas Unedig am drosedd mewn perthynas ag ymddygiad na fyddai, pe bai wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, wedi bod yn drosedd o dan y gyfraith mewn grym yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig.
Pan ddaw aelod yn anghymwys i fod yn aelod yn rhinwedd is-baragraffau (8) i (11), rhaid i'r aelod hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno ar unwaith i'r Clerc.
Bydd aelod yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau'r penodiad ond rhaid i hyd tymor swydd beidio â bod yn hwy na phedair blynedd.
Bydd aelod sy'n ymddeol ar ddiwedd y tymor swydd yn gymwys i gael ei ailbenodi yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a wneir o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu sy'n ymwneud â nifer y tymhorau swydd y caiff person wasanaethu drostynt, ac mae paragraff 4 yn gymwys i ailbenodiad aelod fel y mae'n gymwys i benodiad olynydd i aelod.
Caiff aelod ymddiswyddo o'r swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.
Caiff y Gorfforaeth symud unrhyw aelod o'i swydd drwy hysbysiad ysgrifenedig, os bodlonir y Gorfforaeth ar unrhyw adeg bod unrhyw aelod—
wedi bod yn absennol o gyfarfodydd y Gorfforaeth am gyfnod hwy na chwe mis yn olynol heb ganiatâd y Gorfforaeth; neu
yn analluog neu'n anaddas i gyflawni swyddogaethau aelod.
Bydd person sy'n aelod yn rhinwedd bod yn aelod o staff y sefydliad (gan gynnwys y Pennaeth) yn peidio â dal swydd pan yw'n peidio â bod yn aelod o staff y sefydliad.
Bydd person sy'n aelod yn rhinwedd bod yn fyfyriwr yn y sefydliad yn peidio â dal swydd—
ar ddiwedd blwyddyn academaidd olaf y myfyriwr neu ar y cyfryw adeg arall o'r flwyddyn wedi iddo beidio â bod yn fyfyriwr ag y caiff y Gorfforaeth ei phenderfynu; neu
os caiff ei ddiarddel o'r sefydliad.
Ac eithrio gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, ni chaiff unrhyw aelod gymryd neu ddal unrhyw fuddiant mewn unrhyw eiddo a ddelir neu a ddefnyddir at ddibenion y sefydliad.
Rhaid i aelod y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo—
datgelu i'r Gorfforaeth neu i unrhyw un o bwyllgorau'r Gorfforaeth natur a maint y buddiant;
os yw'n bresennol yn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle mae'r cyflenwi, y contract neu fater arall a grybwyllir yn is-baragraff (3) i gael ei ystyried, peidio â chymryd rhan yn y broses o'i ystyried, na phleidleisio ar unrhyw gwestiwn ynglŷn ag ef, na chael ei gyfrif yn y cworwm sy'n bresennol yn y cyfarfod mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad nad oes hawl gan yr aelod hwnnw i bleidleisio arno; ac
ymneilltuo, os yw'n bresennol yn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle mae'r cyflenwi, y contract neu fater arall a grybwyllir yn is-baragraff (3) i gael ei ystyried, os gofynnir iddo wneud hynny gan fwyafrif o aelodau'r Gorfforaeth sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r Gorfforaeth, neu gan fwyafrif o aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r pwyllgor, yn ôl fel y digwydd.
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i aelod—
sydd ag unrhyw fuddiant ariannol—
mewn cyflenwi gwaith i'r sefydliad, neu gyflenwi nwyddau at ddibenion y sefydliad;
mewn unrhyw gontract neu unrhyw gontract arfaethedig sy'n ymwneud â'r sefydliad; neu
mewn unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r sefydliad, neu
sydd ag unrhyw fuddiant arall o fath a bennir gan y Gorfforaeth mewn unrhyw fater sy'n ymwneud â'r sefydliad.
Pan fo'r mater sydd dan ystyriaeth gan y Gorfforaeth neu unrhyw un neu ragor o'i phwyllgorau yn ymwneud â thâl ac amodau'r holl staff, neu'r holl staff mewn dosbarth penodol, yna, yn achos aelod staff—
nid oes angen iddo ddatgelu buddiant ariannol; a
caiff gymryd rhan mewn ystyried y mater, pleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud ag ef a chyfrif tuag at y cworwm sy'n bresennol yn y cyfarfod hwnnw, cyhyd â'i fod, wrth wneud hynny, yn gweithredu er lles pennaf y Gorfforaeth yn ei chyfanrwydd ac nad yw'n ceisio cynrychioli buddiannau unrhyw berson neu gorff arall; ond
rhaid iddo ymneilltuo o'r cyfarfod os yw'r mater yn un sy'n destun negodi gydag unrhyw rai o'r staff ac os yw'r aelod staff yn cynrychioli un neu ragor o'r staff dan sylw yn y negodi hwnnw.
Rhaid i'r Clerc gadw cofrestr o fuddiannau aelodau'r Gorfforaeth a ddatgelir a rhaid iddo beri bod y gofrestr honno ar gael yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw berson sy'n dymuno ei harchwilio.
Nid yw'r paragraff hwn yn rhwystro aelodau'r Gorfforaeth rhag ystyried cynigion a phleidleisio ar gynigion bod y Gorfforaeth yn yswirio aelodau'r Gorfforaeth yn erbyn rhwymedigaethau a achosir iddynt ac sy'n deillio o'u swyddi nac yn rhwystro'r Gorfforaeth rhag sicrhau'r yswiriant hwnnw a thalu'r premiymau.
Rhaid i'r Gorfforaeth gyfarfod o leiaf un waith ym mhob tymor, a chynnal cyfarfodydd eraill yn ôl yr angen.
Rhaid i gyfarfod cyntaf y Gorfforaeth gael ei alw gan unrhyw bedwar aelod, a rhaid iddynt, o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod, anfon hysbysiad ysgrifenedig a chopi o'r agenda arfaethedig at yr aelodau eraill.
Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (4) a (5), rhaid i bob cyfarfod o'r Gorfforaeth gael ei alw gan y Clerc, a rhaid i'r Clerc anfon at yr aelodau, o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod, hysbysiad ysgrifenedig a chopi o'r agenda arfaethedig.
Os bwriedir ystyried mewn unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, dâl, amodau gwasanaeth, ymddygiad, atal dros dro, diswyddiad neu ymddeoliad y Clerc, rhaid i'r Cadeirydd anfon at yr aelodau, o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod, gopi o'r eitem agenda dan sylw ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol.
Caniateir i gyfarfod arbennig o'r Gorfforaeth gael ei alw ar unrhyw adeg gan y Cadeirydd neu ar gais ysgrifenedig unrhyw bum aelod. Pan fo'r Cadeirydd neu, yn ei absenoldeb, yr Is-gadeirydd, yn rhoi cyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw ar y sail bod materion sy'n galw am eu hystyried ar frys, caniateir i'r hysbysiad sy'n cynnull y cyfarfod a'r agenda arfaethedig gael eu rhoi o fewn llai na phum diwrnod gwaith.
Rhaid i bob aelod weithredu er lles pennaf y Gorfforaeth a chan hynny ni chaiff gymryd ei rwymo wrth siarad a phleidleisio gan eirchion a roddir gan unrhyw gorff neu berson arall.
Hyd nes y digwydd y penderfyniad cyntaf ar nifer yr aelodau o dan baragraff 3, bydd cworwm yng nghyfarfodydd y Gorfforaeth os bydd saith aelod yn bresennol.
Bydd cworwm yng nghyfarfodydd dilynol y Gorfforaeth os bydd nifer yr aelodau sy'n bresennol yn 40% o leiaf o gyfanswm cyfanredol yr aelodau a benderfynir yn unol â pharagraff 3(1) ac unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru.
Os nad yw nifer yr aelodau sy'n bresennol ar gyfer cyfarfod o'r Gorfforaeth yn ffurfio cworwm, rhaid peidio â chynnal y cyfarfod. Os bydd nifer yr aelodau yn peidio â ffurfio cworwm yn ystod un o gyfarfodydd y Gorfforaeth, rhaid terfynu'r cyfarfod ar unwaith.
Mewn amgylchiadau pan na ellir cynnal cyfarfod o'r Gorfforaeth neu pan na ellir parhau â'r cyfarfod, oherwydd nad oes cworwm, caiff y Cadeirydd alw cyfarfod arbennig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
Rhaid i bob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r Gorfforaeth gael ei benderfynu drwy fwyafrif syml o bleidleisiau'r aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn. Os bydd y pleidleisiau'n ymrannu'n gyfartal, bydd gan gadeirydd y cyfarfod bleidlais fwrw.
Ni chaiff aelod bleidleisio drwy ddirprwy na phleidleisio drwy'r post.
Ni chaniateir i unrhyw benderfyniad yr aelodau gael ei ddadwneud na'i amrywio mewn cyfarfod dilynol o'r Gorfforaeth oni fydd ystyriaeth o'r dadwneud neu'r amrywio yn eitem fusnes benodol ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod hwnnw.
Caiff Pennaeth a ddewisodd beidio â bod yn aelod fod yn bresennol ym mhob un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth a siarad yn y cyfarfodydd hynny, ac eithrio bod rhaid i'r Pennaeth ymneilltuo mewn unrhyw achos lle y byddai'n ofynnol iddo ymneilltuo o dan is-baragraff (5) pe bai'r Pennaeth yn bresennol fel aelod.
Rhaid i aelod sy'n aelod o staff y sefydliad (gan gynnwys y Pennaeth) ymneilltuo—
o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth, neu o unrhyw gyfarfod pwyllgor, yr ystyrir ynddi faterion staff sy'n ymwneud â'r aelod hwnnw o'r staff yn unig (yn hytrach na materion staff sy'n ymwneud â phob aelod o'r staff, neu bob aelod o'r staff mewn dosbarth penodol);
o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth, neu o unrhyw gyfarfod pwyllgor, yr ystyrir ynddi ailbenodiad yr aelod hwnnw, neu benodiad ei olynydd;
o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth, neu o unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, yr ystyrir ynddi faterion staff, sy'n ymwneud ag unrhyw aelod staff arall sy'n dal swydd sy'n uwch na swydd yr aelod ei hun, os gofynnir iddo ymneilltuo gan fwyafrif o'r aelodau eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r Gorfforaeth neu gan fwyafrif o aelodau eraill y pwyllgor sy'n bresennol yng nghyfarfod y pwyllgor, yn ôl fel y digwydd; ac
o'r rhan honno o unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth neu o unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, yr ystyrir ynddi negodi ynglŷn â chyflog neu amodau (unrhyw un neu bob un o) aelodau'r staff, os gofynnir iddo ymneilltuo gan fwyafrif o'r aelodau eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r Gorfforaeth neu gan fwyafrif o aelodau eraill y pwyllgor sy'n bresennol yng nghyfarfod y pwyllgor, yn ôl fel y digwydd.
Ni chaiff aelod myfyrwyr sydd o dan 18 oed bleidleisio boed mewn cyfarfod o'r Gorfforaeth nac mewn unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, ar unrhyw gwestiwn ynghylch unrhyw gynnig—
ar gyfer gwario arian gan y Gorfforaeth; neu
y byddai'r Gorfforaeth, neu unrhyw aelodau o'r Gorfforaeth, yn ymrwymo i unrhyw gontract oddi tano, neu'n tynnu unrhyw ddyled neu rwymedigaeth oddi tano (pa un ai ar unwaith, yn amodol neu fel arall).
Ac eithrio fel y darperir gan reolau a wneir o dan erthygl 15(2) o'r Erthyglau Llywodraethu sy'n ymdrin â sylwadau ac apelau gan fyfyrwyr mewn achosion disgyblu, rhaid i aelod myfyrwyr ymneilltuo o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd o'r Gorfforaeth neu o'r pwyllgor yr ystyrir ynddi ymddygiad unrhyw fyfyriwr, neu atal dros dro neu ddiarddel unrhyw fyfyriwr.
Mewn unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, y trafodir ynddo faterion staff sy'n ymwneud ag aelod neu ddarpar aelod o staff y sefydliad, rhaid i aelod myfyrwyr—
peidio â chymryd unrhyw ran yn yr ystyriaeth na'r drafodaeth ar y mater hwnnw na phleidleisio ar unrhyw gwestiwn ynglŷn ag ef; a
ymneilltuo o'r cyfarfod o'r Gorfforaeth neu o'r cyfarfod o bwyllgor y Gorfforaeth, pan ofynnir iddo wneud hynny gan fwyafrif o'r aelodau sy'n bresennol ac eithrio aelodau myfyrwyr neu gan fwyafrif o aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol ac eithrio'r rheini sy'n aelodau myfyrwyr, yn ôl fel y digwydd.
Rhaid i'r Clerc—
ymneilltuo o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth yr ystyrir ynddi dâl y Clerc, ei amodau gwasanaeth, ei ymddygiad, ei atal dros dro, ei ddiswyddo neu ei ymddeoliad, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Clerc; a
pan fo'r Clerc yn aelod o staff y sefydliad, ymneilltuo yn unrhyw achos lle byddai'n ofynnol i aelod ymneilltuo o dan is-baragraff (5) pe bai'n bresennol fel aelod o'r staff.
Os yw'r Clerc yn ymneilltuo o gyfarfod neu ran ohono o dan is-baragraff (9), rhaid i'r Gorfforaeth neu'r pwyllgor o'r Gorfforaeth, yn ôl fel y digwydd, benodi person (ac eithrio'r Pennaeth) i weithredu fel Clerc dros dro yn unol â pharagraff 6(3).
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ym mhob un o gyfarfodydd y Gorfforaeth ac unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, rhaid trin cofnodion y cyfarfod diwethaf fel eitem agenda ac, os cytunir eu bod yn gywir, rhaid i'r cofnodion hynny gael eu llofnodi fel rhai cywir gan gadeirydd y cyfarfod.
Nid yw is-baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol trin cofnodion y cyfarfod diwethaf fel eitem agenda cyfarfod arbennig a elwir o dan baragraff 11(5), ond pan nad yw cofnodion y cyfarfod diwethaf yn cael eu trin fel un o eitemau agenda'r cyfarfod hwnnw, rhaid eu trin fel eitem agenda yn y cyfarfod nesaf nas gelwir o dan baragraff 11(5).
Rhaid paratoi cofnodion ar wahân o'r rhannau hynny o gyfarfodydd y mae'r Clerc, y Pennaeth, aelodau staff neu aelodau myfyrwyr wedi ymneilltuo ohonynt yn unol ag is-baragraffau (5) i (9) o baragraff 13, ac nid oes hawl gan yr un o'r cyfryw bersonau i weld y cofnod o'r rhan honno o'r cyfarfod nac unrhyw bapurau ynglŷn â'r rhan honno.
Yn ddarostyngedig i baragraff 13, mae hawl gan y canlynol i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Gorfforaeth—
aelod;
y Clerc; ac
hyd at ddau berson sy'n arsylwi ar ran Gweinidogion Cymru.
Rhaid i unrhyw gwestiwn ynglŷn ag a ddylid caniatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth gael ei benderfynu gan y Gorfforaeth.
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i'r Gorfforaeth beri bod copi o'r dogfennau a ganlyn ar gael, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw berson sy'n dymuno eu harchwilio—
yr agenda ar gyfer pob cyfarfod o'r Gorfforaeth ac unrhyw un neu ragor o'i phwyllgorau;
cofnodion drafft pob cyfarfod o'r fath, os ydynt wedi'u cymeradwyo gan gadeirydd y cyfarfod;
cofnodion llofnodedig pob cyfarfod o'r fath; a
unrhyw adroddiad, dogfen neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath.
Rhaid hepgor o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael, unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol—
person a enwir sy'n cael ei gyflogi neu y bwriedir ei gyflogi yn y sefydliad;
myfyriwr a enwir yn y sefydliad neu ymgeisydd am gael ei dderbyn i'r sefydliad;
y Clerc; a
unrhyw fater y bodlonir y Gorfforaeth y dylid ymdrin ag ef yn gyfrinachol, oherwydd natur y mater hwnnw.
Rhaid i eitemau a hepgorir o dan is-baragraff (2)(d) gael eu hadolygu'n rheolaidd gan y Gorfforaeth. Os yw eitem yn peidio â bod yn gyfrinachol, rhaid i'r Gorfforaeth beri bod copi o'r eitem honno ar gael, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw berson sy'n dymuno ei harchwilio.
Caiff y Gorfforaeth dalu i'w haelodau unrhyw lwfansau teithio, lwfansau cynhaliaeth neu lwfansau eraill a benderfynir gan y Gorfforaeth, ond rhaid iddi beidio â thalu lwfansau sy'n dâl i'r aelodau am eu gwasanaethau fel aelodau.
Rhaid i'r Gorfforaeth roi copi o'r Offeryn hwn i bob aelod a pheri bod copi ar gael i'w archwilio gan unrhyw berson ar gais yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad.
Caiff y Gorfforaeth newid ei henw gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
Dilysir gosod sêl y Gorfforaeth drwy:
llofnod naill ai'r Cadeirydd neu ryw aelod arall a awdurdodwyd naill ai'n gyffredinol neu'n benodol gan y Gorfforaeth i weithredu at y diben hwnnw; a
llofnod unrhyw aelod arall.
Rheoliad 3
Yn yr Erthyglau Llywodraethu hyn—
ystyr “y Bwrdd Academaidd” (“the Academic Board”) yw corff a gyfansoddwyd yn unol ag erthygl 4;
“y dyddiad gweithredu” (“the operative date”) yw 1 Awst 2013, sef y dyddiad y mae'r Gorfforaeth i ymgymryd â rhedeg y sefydliad o hynny ymlaen
ystyr “yr Erthyglau hyn” (“these Articles”) yw'r Erthyglau Llywodraethu hyn;
ystyr “y staff” (“the staff”) yw pawb o'r staff sydd â chontract cyflogaeth gyda'r sefydliad, gan gynnwys staff academaidd;
ystyr “swydd uwch” (“senior post”) yw swydd y Pennaeth a'r cyfryw swyddi eraill y caiff y Gorfforaeth benderfynu arnynt at ddibenion yr Erthyglau hyn;
ystyr “Undeb y Myfyrwyr” (“Students' Union”) yw unrhyw gymdeithas o'r myfyrwyr yn gyffredinol a ffurfiwyd i hyrwyddo dibenion addysgol y sefydliad a lles y myfyrwyr fel myfyrwyr; ac
mae i eiriau ac ymadroddion a ddiffinnir yn yr Offeryn Llywodraethu yr un ystyr.
Rhaid rhedeg y sefydliad yn unol â darpariaethau'r Offeryn Llywodraethu, yr Erthyglau hyn, unrhyw reolau neu is-ddeddfau a wneir o dan yr Erthyglau hyn ac unrhyw weithred ymddiriedolaeth sy'n rheoleiddio'r sefydliad.
Y Gorfforaeth sy'n gyfrifol am—
penderfynu cymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad a goruchwylio ei weithgareddau;
defnyddio adnoddau yn effeithiol ac yn effeithlon, solfedd y sefydliad a'r Gorfforaeth a diogelu eu hasedau;
cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol o incwm a gwariant;
penodi, graddio, arfarnu, atal dros dro a phenderfynu cyflog ac amodau gwasanaeth deiliaid swyddi uwch a'r Clerc (gan gynnwys, pan fo'r Clerc wedi'i benodi, neu i'w benodi, fel aelod o'r staff, penodiad y Clerc, ei radd, ei atal dros dro a phenderfynu ei gyflog yn rhinwedd ei swyddogaeth fel aelod o'r staff);
diswyddo deiliaid swyddi uwch a'r Clerc (gan gynnwys, pan fo'r Clerc wedi'i benodi, neu i'w benodi, fel aelod o'r staff, diswyddo'r Clerc yn rhinwedd ei swyddogaeth fel aelod o'r staff);
gosod fframwaith ar gyfer cyflog ac amodau gwasanaeth yr holl staff eraill; ac
os nad oes Bwrdd Academaidd, sicrhau bod trefniadau wedi eu gwneud i gynghori'r Pennaeth ynghylch—
safonau gwaith academaidd y sefydliad a chynllunio, cydgysylltu, datblygu a goruchwylio'r gwaith academaidd hwnnw;
trefniadau i dderbyn, asesu ac arholi myfyrwyr; a
y gweithdrefnau ar gyfer diarddel myfyrwyr am resymau academaidd.
Y Pennaeth sy'n gyfrifol am—
cyflwyno cynigion i'r Gorfforaeth am gymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad, ac am roi penderfyniadau'r Gorfforaeth ar waith;
trefnu, cyfarwyddo a rheoli'r sefydliad ac arwain y staff;
penodi, pennu, graddio, arfarnu, atal dros dro staff ac eithrio deiliaid swyddi uwch neu'r Clerc a phenderfynu, o fewn y fframwaith a osodir gan y Gorfforaeth, eu cyflog a'u hamodau gwasanaeth;
diswyddo staff ac eithrio deiliaid swyddi uwch neu'r Clerc;
penderfynu, ar ôl ymgynghori â'r Bwrdd Academaidd (os oes un), neu os nad oes Bwrdd Academaidd, ar ôl ymgynghori â'r Gorfforaeth, ar weithgareddau academaidd y sefydliad, a phenderfynu ei weithgareddau eraill;
paratoi amcangyfrifon blynyddol incwm a gwariant, ar gyfer eu hystyried a'u cymeradwyo gan y Gorfforaeth;
rheoli'r gyllideb a'r adnoddau, o fewn yr amcangyfrifon a gymeradwyir gan y Gorfforaeth;
cynnal disgyblaeth y myfyrwyr, gan gynnwys atal myfyrwyr dros dro neu eu diarddel ar sail ddisgyblaethol; ac
diarddel myfyrwyr am resymau academaidd.
Y Clerc sy'n gyfrifol am gynghori'r Gorfforaeth ynglŷn ag—
gweithredu ei phwerau;
materion gweithdrefnol;
rhedeg ei busnes; a
materion arferion llywodraethu.
Caiff y Gorfforaeth sefydlu Bwrdd Academaidd.
Mae paragraffau (3) i (10) yn gymwys os yw'r Gorfforaeth wedi sefydlu Bwrdd Academaidd.
Rhaid i'r Bwrdd Academaidd gynnwys—
y Pennaeth, a rhaid iddo fod yn gadeirydd y Bwrdd Academaidd;
aelodau eraill o'r staff neu fyfyrwyr, yn ddarostyngedig i'r terfynau a benderfynir gan y Gorfforaeth o dan baragraff (4).
Rhaid i'r Gorfforaeth benderfynu ar y nifer lleiaf a'r nifer mwyaf o staff a myfyrwyr y mae'n rhaid eu cynnwys yn y Bwrdd Academaidd.
Caiff y Pennaeth enwebu un aelod o'r Bwrdd Academaidd i fod yn gadeirydd y Bwrdd Academaidd ar unrhyw adeg pan na all y Pennaeth fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Bwrdd Academaidd.
Y Bwrdd Academaidd sy'n gyfrifol am sicrhau bod trefniadau wedi eu gwneud i gynghori'r Pennaeth ynghylch—
safonau gwaith academaidd y sefydliad a chynllunio, cydgysylltu, datblygu a goruchwylio'r gwaith academaidd hwnnw;
trefniadau i dderbyn, asesu ac arholi myfyrwyr; ac
gweithdrefnau ar gyfer diarddel myfyrwyr oherwydd bod safon eu gwaith yn anfoddhaol neu resymau academaidd eraill.
Rhaid i'r Bwrdd Academaidd ymgynghori â chynrychiolwyr y myfyrwyr ac â'r Gorfforaeth, cyn cynghori'r Pennaeth yn unol â pharagraff (6)(c).
Caiff y Bwrdd Academaidd, gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig y Pennaeth ymlaen llaw, sefydlu pa bynnag bwyllgorau yr ystyria'n angenrheidiol i'w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau, fel y'u disgrifir ym mharagraff (6).
Caiff aelodau unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (8) gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd Academaidd.
Rhaid i'r Bwrdd Academaidd gael cymeradwyaeth ysgrifenedig y Gorfforaeth ymlaen llaw ar gyfer—
cyfnod penodiad aelodau'r Bwrdd Academaidd;
y trefniadau ar gyfer dethol neu ethol aelodau o'r Bwrdd Academaidd; ac
nifer aelodau unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (8) ac ar ba delerau y daliant ac y gadawant eu swyddi.
Caiff y Gorfforaeth sefydlu pwyllgor o'r Gorfforaeth at unrhyw ddiben, ac eithrio i gyflawni swyddogaethau a bennir yn yr Erthyglau hyn ar gyfer y Pennaeth neu (os yw'r Gorfforaeth wedi sefydlu Bwrdd Academaidd) ar gyfer y Bwrdd Academaidd.
Rhaid i'r Gorfforaeth benderfynu ar nifer aelodau unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan yr erthygl hon ac ar ba delerau y daliant ac y gadawant eu swyddi.
Caiff unrhyw bwyllgor a sefydlir gan y Gorfforaeth o dan yr erthygl hon gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Gorfforaeth.
Rhaid i'r Gorfforaeth beri bod datganiad ysgrifenedig ar gael yn y sefydliad, i'w archwilio gan unrhyw berson yn ystod oriau swyddfa arferol, o bolisi'r Gorfforaeth ynglŷn â phresenoldeb personau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgorau, mewn cyfarfodydd o'r pwyllgorau hynny.
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y Gorfforaeth ddirprwyo pwerau—
i unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan erthygl 5;
i'r Cadeirydd neu, yn absenoldeb y Cadeirydd, i'r Is-gadeirydd; neu
i'r Pennaeth.
Rhaid i'r Gorfforaeth beidio â dirprwyo'r canlynol—
penderfynu ar gymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad;
cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol incwm a gwariant;
y cyfrifoldeb dros sicrhau solfedd y sefydliad a'r Gorfforaeth a diogelu eu hasedau;
penodi person i swydd uwch;
penodi'r Clerc, gan gynnwys, pan fo'r Clerc wedi'i benodi, neu i'w benodi fel aelod o'r staff, penodi'r Clerc yn rhinwedd ei swyddogaeth fel aelod o'r staff; neu
gwneud erthyglau llywodraethu newydd yn lle'r Erthyglau hyn neu addasu'r Erthyglau hyn o dan adran 22ZA(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992
Caiff y Pennaeth, gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig y Gorfforaeth ymlaen llaw, ddirprwyo unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Pennaeth i aelodau eraill o staff, ac eithrio rheoli'r gyllideb.
Caiff y Bwrdd Academaidd ddirprwyo pwerau i unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan erthygl 4(8).
Caiff y Gorfforaeth sefydlu pwyllgor i benderfynu ar—
yr achos dros ddiswyddo'r Clerc neu ddeiliad swydd uwch;
apêl mewn cysylltiad â diswyddo'r Clerc neu ddeiliad swydd uwch.
Rhaid i'r Gorfforaeth wneud rheolau sy'n pennu'r modd y mae'n rhaid sefydlu a rhedeg pwyllgor sydd â swyddogaethau o dan baragraff (1).
Rhaid i'r rheolau a wneir o dan baragraff (2) gynnwys y gofyniad bod unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan yr erthygl yn cynnwys aelodau o'r Gorfforaeth yn unig.
Rhaid i'r Gorfforaeth sefydlu pwyllgor, a elwir y Pwyllgor Chwilio, i gynghori ynghylch—
penodi'r aelodau busnes, yr aelodau cymunedol a'r aelodau awdurdod lleol;
cyfethol aelodau cyfetholedig y Gorfforaeth; ac
materion eraill yn ymwneud ag aelodaeth a phenodiadau y gofynna'r Gorfforaeth i'r Pwyllgor Chwilio eu hystyried.
Caiff y Pwyllgor Chwilio gynnwys pobl nad ydynt yn aelodau o'r Gorfforaeth.
Rhaid i'r Gorfforaeth ystyried cyngor y Pwyllgor Chwilio cyn—
penodi unrhyw berson yn aelod busnes, yn aelod cymunedol neu'n aelod awdurdod lleol; neu
cyfethol unrhyw berson yn aelod.
Caiff y Gorfforaeth—
penderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgor Chwilio; a
gwneud rheolau sy'n pennu'r gweithdrefnau ar gyfer rhedeg y Pwyllgor Chwilio.
Rhaid i'r Gorfforaeth beri bod copi o unrhyw gylch gorchwyl a rheolau o'r fath ar gael yn y sefydliad i'w archwilio gan unrhyw berson yn ystod oriau swyddfa arferol.
Rhaid i'r Gorfforaeth sefydlu pwyllgor, a elwir y Pwyllgor Archwilio, i gynghori ar faterion sy'n ymwneud â threfniadau archwilio'r Gorfforaeth a'i systemau rheolaethau mewnol.
Rhaid i'r Pwyllgor Archwilio gynnwys o leiaf dri pherson.
Caiff y Pwyllgor Archwilio gynnwys pobl nad ydynt yn aelodau.
Ni chaiff deiliaid swyddi uwch fod yn aelodau o'r Pwyllgor Archwilio.
Caiff y Pwyllgor Archwilio gynnwys aelodau o staff y Gorfforaeth ac eithrio'r rheini sydd mewn swyddi uwch.
Rhaid i'r Pwyllgor Archwilio weithredu'n unol ag unrhyw ofynion gan Weinidogion Cymru.
Pan fo swydd uwch yn wag neu pan ddisgwylir i swydd uwch fynd yn wag, rhaid i'r Gorfforaeth—
hysbysebu'r swydd wag yn y cyfryw gyhoeddiadau sy'n cylchredeg drwy'r Deyrnas Unedig ag a ystyria'n briodol; a
penodi panel dethol sy'n cynnwys—
os y swydd wag yw swydd y Pennaeth, o leiaf bum aelod o'r Gorfforaeth, gan gynnwys y Cadeirydd a/neu'r Is-gadeirydd; neu
os y swydd wag yw unrhyw swydd uwch arall, y Pennaeth ac o leiaf dri aelod arall o'r Gorfforaeth.
Rhaid i aelodau'r panel dethol—
penderfynu ar y trefniadau ar gyfer dewis ymgeiswyr i'w cyfweld;
cyfweld yr ymgeiswyr hynny; ac
os barnant ei bod yn briodol gwneud hynny, argymell un o'r ymgeiswyr y maent wedi'i gyfweld i'r Gorfforaeth ei benodi.
Os yw'r Gorfforaeth yn cymeradwyo'r ymgeisydd a argymhellir, rhaid iddi benodi'r person hwnnw.
Os na all aelodau'r panel dethol gytuno ar berson i'w argymell i'r Gorfforaeth, neu os nad yw'r Gorfforaeth yn cymeradwyo'r argymhelliad, caiff y Gorfforaeth ei gwneud yn ofynnol bod y panel yn ail gymryd y camau a bennir ym mharagraff (2), gan naill ai ail hysbysebu'r swydd wag yn gyntaf neu beidio.
Pan fo'r camau a osodir ym mharagraffau (1) i (4) wedi eu cymryd gan unrhyw berson neu gorff cyn y dyddiad y sefydlir y Gorfforaeth
Os digwydd i swydd uwch fynd yn wag, neu os digwydd bod deiliad swydd uwch yn absennol dros dro, ar ôl y dyddiad gweithredu, yna, hyd nes y llenwir y swydd honno neu hyd nes bo deiliad absennol y swydd uwch yn dychwelyd i'w swydd—
ceir ei gwneud yn ofynnol bod aelod o'r staff yn gweithredu fel Pennaeth, neu yn lle deiliad unrhyw swydd uwch arall; a
bydd ganddo holl ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r Pennaeth neu ddeiliad swydd uwch arall honno tra bo'r swydd yn wag neu'r deiliad swydd yn absennol dros dro.
Ar ôl ymgynghori â'r staff, rhaid i'r Gorfforaeth wneud rheolau ynglŷn ag ymddygiad y staff.
Wrth wneud rheolau o dan erthygl 11, rhaid i'r Gorfforaeth roi sylw i'r angen am sicrhau bod rhyddid gan staff academaidd y sefydliad o fewn y gyfraith i gwestiynu a phrofi doethineb cyffredin, ac i gyflwyno syniadau newydd a lleisio barn ddadleuol neu amhoblogaidd, heb eu rhoi eu hunain mewn perygl o golli eu swyddi neu unrhyw freintiau y gallant fod yn eu mwynhau yn y sefydliad.
Ar ôl ymgynghori â'r staff, rhaid i'r Gorfforaeth wneud rheolau sy'n gosod—
gweithdrefnau cwyno ar gyfer yr holl staff;
gweithdrefnau atal dros dro ar gyfer yr holl staff; ac
gweithdrefnau disgyblu a diswyddo ar gyfer—
deiliaid swyddi uwch, a
staff ac eithrio deiliaid swyddi uwch.
Rhaid i'r rheolau a wneir gan y Gorfforaeth o dan baragraff (1) gydymffurfio â darpariaethau erthygl 7.
Pan fo'r Clerc hefyd yn aelod o staff y sefydliad, at ddibenion erthygl 13 rhaid trin y Clerc fel deiliad swydd uwch.
Pan fo'r Clerc yn cael ei atal dros dro neu'i ddiswyddo fel aelod o'r staff yn unol â rheolau a wneir o dan erthygl 13, nid yw'r ataliad dros dro neu'r diswyddiad hwnnw yn effeithio ar safle'r Clerc fel Clerc y Gorfforaeth, sy'n rôl ar wahân.
Rhaid i unrhyw Undeb Myfyrwyr—
rhedeg a rheoli ei fusnes a'i gronfeydd ei hun yn unol â chyfansoddiad a gymeradwyir gan y Gorfforaeth;
sicrhau cymeradwyaeth ysgrifenedig y Gorfforaeth ymlaen llaw i unrhyw ddiwygiad neu ddadwneuthuriad o'r cyfansoddiad hwnnw; ac
cyflwyno cyfrifon archwiliedig i'r Gorfforaeth yn flynyddol.
Rhaid i'r Gorfforaeth, ar ôl ymgynghori â'r Bwrdd Academaidd (os oes un) a chynrychiolwyr y myfyrwyr, wneud rheolau ynghylch ymddygiad y myfyrwyr, gan gynnwys gweithdrefnau ar gyfer atal dros dro a diarddel ar sail ddisgyblaethol.
Os nad oes Bwrdd Academaidd, rhaid i'r Gorfforaeth, ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr y myfyrwyr, gynghori'r Pennaeth ynghylch gweithdrefnau ar gyfer diarddel myfyriwr oherwydd bod fod safon ei waith yn anfoddhaol, neu am reswm academaidd arall.
Rhaid i'r Gorfforaeth osod y polisi a ddefnyddir i benderfynu ar y ffioedd dysgu a'r ffioedd eraill sy'n daladwy i'r Gorfforaeth (yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau a osodir ar grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru).
Rhaid i'r Gorfforaeth gydweithredu ag unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i archwilio unrhyw ddatganiadau o niferoedd myfyrwyr neu hawliadau am gymorth ariannol, gan gynnwys caniatáu i unrhyw berson o'r fath weld unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddelir gan y Gorfforaeth gan gynnwys cofnodion a gedwir ar gyfrifiaduron.
Rhaid i'r Gorfforaeth, ar yr adegau yr ystyria'n briodol, archwilio a gwerthuso ei systemau rheolaethau ariannol mewnol (neu, yn ddarostyngedig i baragraff (2), drefnu i'r systemau hynny gael eu harchwilio a'u gwerthuso ar ei rhan) er mwyn sicrhau eu bod yn cyfrannu at ddefnyddio adnoddau'r Gorfforaeth yn briodol, darbodus, effeithlon ac effeithiol.
Rhaid i'r Gorfforaeth beidio â phenodi unrhyw bersonau (“archwilwyr mewnol”) i gyflawni'r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ar ei rhan os penodir y personau hynny yn archwilwyr allanol o dan erthygl 19(3).
Rhaid i'r Gorfforaeth—
cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â'r cyfrifon; a
paratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol y Gorfforaeth.
Rhaid i'r datganiad—
rhoi golwg gwir a theg ar gyflwr busnes y Gorfforaeth ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac o incwm a gwariant y Gorfforaeth, a'i mewnlifoedd ac all-lifoedd arian yn y flwyddyn ariannol; a
cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad, y modd y mae'r wybodaeth i gael ei chyflwyno, y dulliau a'r egwyddorion i'w dilyn wrth ei baratoi ac amser a modd ei gyhoeddi.
Rhaid i'r cyfrifon (gan gynnwys unrhyw ddatganiad a lunnir o dan yr erthygl hon) gael eu harchwilio gan bersonau (“archwilwyr allanol”) a benodir gan y Gorfforaeth ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Rhaid i'r archwilwyr allanol hyn gael eu penodi a rhaid i waith archwilio arall gael ei gyflawni, yn unol ag unrhyw ofynion gan Weinidogion Cymru.
Rhaid i'r Gorfforaeth beidio â phenodi personau'n archwilwyr allanol o dan baragraff (3) ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol os yw'r personau hynny wedi'u penodi hefyd yn archwilwyr mewnol o dan erthygl 18.
Ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r flwyddyn ariannol gyntaf, a phob cyfnod dilynol o 12 mis (ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (8)).
Ystyr “y flwyddyn ariannol gyntaf” (“the first financial year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y sefydlwyd y Gorfforaeth ac sy'n dod i ben naill ai ar yr ail 31 Gorffennaf ar ôl y dyddiad hwnnw neu sy'n dod i ben ar ryw ddyddiad arall a benderfynir gan y Gorfforaeth gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
Os diddymir y Gorfforaeth—
bydd y flwyddyn ariannol olaf yn dod i ben ar ddyddiad diddymu'r Gorfforaeth; a
caiff y Gorfforaeth, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, benderfynu bod yr hyn a fyddai wedi bod fel arall y ddwy flynedd ariannol olaf i'w drin fel blwyddyn ariannol unigol at ddiben yr erthygl hon.
Caiff y Gorfforaeth wneud rheolau ac is-ddeddfau ynghylch unrhyw faterion ynglŷn â llywodraethu a rhedeg y sefydliad. Bydd y rheolau a'r is-ddeddfau hynny yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Offeryn Llywodraethu ac i'r Erthyglau hyn.
Rhaid i'r Gorfforaeth roi copi o'r Erthyglau hyn, ac o unrhyw reolau ac is-ddeddfau, i bob aelod a pheri eu bod ar gael i unrhyw berson eu harchwilio ar gais, yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r Offeryn Llywodraethu a'r Erthyglau Llywodraethu ar gyfer Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria. Mae'r Offeryn Llywodraethu ac Erthyglau Llywodraethu yn darparu ar gyfer cyfansoddiad ac ar gyfer rhedeg Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria.