Cymhwyso2
1
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy a Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 20094 ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr awdurdod trwyddedu” i'w darllen yn unol â hynny.
2
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn gymwys o ran unrhyw swyddogaeth sydd wedi ei heithrio o fewn ystyr adran 98(6) o'r Ddeddf honno.