Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirprwyo arfer swyddogaethau penodol Gweinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”) i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.

Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys i swyddogaethau'r awdurdod trwyddedu (yn bennaf y rhai sy'n ymwneud â gwneud is-ddeddfwriaeth) sy'n swyddogaethau sydd wedi eu heithrio ac na ellir eu dirprwyo yn rhinwedd adran 98(5)(a) o Ddeddf 2009 (erthygl 2(2)).

Mae erthygl 3 yn dynodi swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu o dan Ran 4 (trwyddedu morol) o Ddeddf 2009 (gan gynnwys swyddogaethau o dan is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Rhan honno).

Mae erthygl 4 yn darparu bod y swyddogaethau dynodedig yn arferadwy gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu (yn hytrach na bod yn arferadwy gan yr awdurdod hwnnw, neu mewn perthynas ag ef). Mae gan yr awdurdod trwyddedu'r pwer i roi cyfarwyddiadau i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru mewn cysylltiad â chyflawni'r swyddogaethau dirprwyedig (gweler adran 100 o Ddeddf 2009, y mae ei phwer yn swyddogaeth sydd wedi ei heithrio).

Mae erthygl 5 yn diwygio erthygl 5 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (“Gorchymyn 2011”). Mae erthygl 5 o Orchymyn 2011 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd nad oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud â gwaredu neu adfer gwastraff (ac mae'n gweithredu, yn rhannol, Gyfarwyddeb 2008/08/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3)). Mae'r cyfeiriadau at yr awdurdod trwyddedu yn erthygl 5(4) a (5) wedi eu hamnewid gan gyfeiriadau at Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.

Mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth o ganlyniad i ddirprwyo swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu o dan Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau yn Erbyn Penderfyniadau Trwyddedu) (Cymru) 2011.

Mae erthygl 7 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion i sicrhau parhad rhwng pethau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu mewn perthynas â hwy, fel awdurdod trwyddedu cyn 1 Ebrill 2013 a phan ymgymera Corff Adnoddau Naturiol Cymru ag arfer swyddogaethau penodol yr awdurdod trwyddedu yn unol â'r Gorchymyn hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r offeryn hwn.