2013 Rhif 434 (Cy.52)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(2)(b)(iii), (3)(b) a (5) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 20021 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2 ac ar ôl gwneud y trefniadau hynny ar gyfer ymgynghori y maent o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 117 o Ddeddf Addysg 20023 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 ac mae'n dod i rym ar 1 Medi 2013.

2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

1

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y cwricwlwm Cymraeg” (“Welsh curriculum”) yw'r cwricwlwm a nodir yn—

a

y ddogfen ar drywydd llythrennedd;

b

y ddogfen llythrennedd — darllen;

c

y ddogfen llythrennedd — llafaredd; ac

d

y ddogfen llythrennedd — ysgrifennu;

  • ystyr “y ddogfen “ar drywydd llythrennedd”” (“the ar drywydd llythrennedd document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Ar drywydd llythrennedd”4;

  • ystyr “y ddogfen “ar drywydd rhifedd”” (“the routes to numeracy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Ar drywydd rhifedd”5;

  • ystyr “y ddogfen “literacy — oracy”” (“the literacy — oracy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Literacy — Oracy across the curriculum”6;

  • ystyr “y ddogfen “literacy — reading”” (“the literacy — reading document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Literacy — Reading across the curriculum”7;

  • ystyr “y ddogfen “literacy — writing”” (“the literacy — writing document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Literacy — Writing across the curriculum”8;

  • ystyr “y ddogfen “llythrennedd — darllen”” (“the llythrennedd — darllen document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Llythrennedd — Darllen ar draws y cwricwlwm”9;

  • ystyr “y ddogfen “llythrennedd — llafaredd”” (“the llythrennedd — llafaredd document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Llythrennedd — Llafaredd ar draws y cwricwlwm”10;

  • ystyr “y ddogfen “llythrennedd — ysgrifennu”” (“the llythrennedd — ysgrifennu document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Llythrennedd — Ysgrifennu ar draws y cwricwlwm”11;

  • ystyr “y ddogfen “rhifedd”” (“the numeracy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Rhifedd”12;

  • ystyr “y ddogfen “the routes to literacy”” (“the routes to literacy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Routes to literacy”13;

  • ystyr “y meysydd dysgu perthnasol” (“the relevant areas of learning”) yw—

    1. a

      sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; a

    2. b

      datblygiad mathemategol;

  • ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw—

    1. a

      Saesneg;

    2. b

      Cymraeg; ac

    3. c

      mathemateg; ac

  • ystyr “ysgol Gymraeg” (“Welsh-speaking school”) yw ysgol sy'n dilyn y cwricwlwm Cymraeg.

2

Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103(1)(b) ac (c) o Ddeddf Addysg 2002.

RHAN 1Y Cyfnod Sylfaen

Llythrennedd — llafaredd3

1

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — llafaredd o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

2

Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — oracy o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.

Llythrennedd — darllen4

1

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — darllen o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

2

Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — reading o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.

Llythrennedd — ysgrifennu5

1

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — ysgrifennu o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

2

Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — writing o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.

Rhifedd6

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen rhifedd o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer pob ysgol.

Ar drywydd llythrennedd7

1

Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

2

Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen the routes to literacy yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.

Ar drywydd rhifedd8

Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd rhifedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer pob ysgol.

RHAN 2Yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol

Llythrennedd — llafaredd9

1

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — oracy o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.

2

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — llafaredd o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

Llythrennedd — darllen10

1

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — reading o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.

2

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — darllen o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

Llythrennedd — ysgrifennu11

1

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — writing o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.

2

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — ysgrifennu o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

Rhifedd12

Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen rhifedd o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.

Ar drywydd llythrennedd13

1

Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

2

Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol.

Ar drywydd rhifedd14

Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd rhifedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.

Leighton AndrewsY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 108(2)(b)(iii) a (3) o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu pwer i Weinidogion Cymru ragnodi drwy Orchymyn raglenni addysgol mewn cysylltiad â'r cyfnod sylfaen a rhaglenni astudio mewn cysylltiad â'r cyfnodau allweddol. Mae'r rhaglenni addysgol a'r rhaglenni astudio yn nodi'r hyn y mae rhaid ei addysgu i ddisgyblion.

Rhoddwyd effaith gyfreithiol i'r rhaglenni addysgol presennol ar gyfer y meysydd dysgu yn y cyfnod sylfaen gan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008. Rhoddwyd effaith gyfreithiol i'r rhaglenni astudio presennol ar gyfer y pynciau yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a'r pedwerydd cyfnod allweddol gan Orchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i raglenni addysgol ychwanegol ar gyfer meysydd dysgu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu a datblygiad mathemategol yn y cyfnod sylfaen (Rhan 1 o'r Gorchymyn).

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn rhoi effaith gyfreithiol i'r rhaglenni astudio ychwanegol mewn Saesneg, Cymraeg a mathemateg yn yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol (Rhan 2 o'r Gorchymyn).