2013 Rhif 437 (Cy.53)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol ag adran 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 29, 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961, ac yn adrannau 30(1) a (2) a 210 o Ddeddf Addysg 20022 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy3 ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: