Offerynnau Statudol Cymru
2013 Rhif 438 (Cy.54)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed
27 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Mawrth 2013
Yn dod i rym
8 Ebrill 2013
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 8 Ebrill 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r Rheoliadau
2.—(1) Mae Rheoliadau Pobl Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000(4) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—
“mae i “asesiad” yr un ystyr ag a roddir i “assessment” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2013;”
“ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliad Annibyniaeth Bersonol) 2013(5);”.
(3) Yn rheoliad 4 (disgrifiadau o bersonau anabl), ym mharagraff (2)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (d), yn lle'r atalnod llawn rhodder hanner colon;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (dd), yn lle'r atalnod llawn rhodder hanner colon; ac
(c)ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—
“(e)yn derbyn y gydran symudedd o'r taliad annibyniaeth bersonol ar ôl cyflawni asesiad gan sgorio—
(i)o leiaf 12 pwynt mewn perthynas â'r gweithgaredd “cynllunio a dilyn taith”; neu
(ii)o leiaf 8 pwynt mewn perthynas â'r gweithgaredd “symud o gwmpas”,
fel y nodir yn Rhan 3 o Atodlen 1 i Reoliadau 2013”.
(4) Yn rheoliad 6 (ffi am roi bathodyn a chyfnod y rhoi), ym mharagraff (4)(b)—
(a)yn lle “neu 4(2)(ch)” rhodder “, 4(2)(ch) neu 4(2)(e)”; a
(b)ym mharagraff (ii) yn lle “neu'r atodiad symudedd” rhodder “, yr atodiad symudedd neu'r gydran symudedd o'r taliad annibyniaeth bersonol”.
(5) Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—
“Darpariaeth drosiannol
9A.—(1) Pan fo person yn bodloni paragraff (2)—
(a)mae'r person i gael ei drin fel petai'n berson anabl at ddibenion rheoliad 7; a
(b)nid yw rheoliad 9(1)(c) yn gymwys i'r person,
hyd nes bod y cyfnod y rhoddwyd y bathodyn person anabl y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b)(i) ar ei gyfer wedi dod i ben.
(2) Mae person yn bodloni'r paragraff hwn os—
(a)yw hawl y person i'r lwfans byw i'r anabl yn terfynu yn unol â Rheoliadau 2013;
(b)ar y diwrnod olaf y mae gan y person hawl i'r lwfans byw i'r anabl, bod y person—
(i)yn meddu ar fathodyn person anabl sydd wedi ei roi yn unol â'r Rheoliadau hyn, a
(ii)yn berson anabl at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd bodloni rheoliad 4(1) a (2)(a);
(c)yn effeithiol o'r diwrnod canlynol, nad yw'r person, at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn berson anabl mwyach gan nad yw'r person yn bodloni rheoliad 4(1)(a) a (2)(a); ac
(ch)nad yw cyfnod y rhoddwyd y bathodyn a grybwyllwyd yn is-baragraff (b) ar ei gyfer eto wedi dod i ben.”
(6) Yn yr Atodlen, Rhan IIIA, paragraff 2—
(a)yn is-baragraff (a) yn lle “baragraffau (b) ac (c)”, rhodder “baragraffau (b), (c), (ca) ac (cb).”;
(b)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
“(ca)pan nad yw person, oherwydd ei anabledd, yn gallu bodloni unrhyw un neu ragor o ofynion—
(i)paragraff (a)(vi)(cc);
(ii)paragraff (a)(vi)(chch); neu
(iii)paragraff (a)(vi)(dd),
rhaid cyflwyno datganiad ysgrifenedig gyda'r ffotograff yn cadarnhau'r rhesymau pam na ellir bodloni gofynion y paragraffau hynny.”
(c)ar ôl is-baragraff newydd (ca) mewnosoder—
“(cb)rhaid i unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a ddarperir i awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff (ca)—
(i)bod wedi ei lofnodi a'i ddyddio gan y ceisydd; neu
(ii)pan na fo'n bosibl i'r ceisydd lofnodi a dyddio'r datganiad, rhaid i gynrychiolydd y ceisydd ei lofnodi a'i ddyddio, gan nodi natur ei berthynas â'r ceisydd.”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2013
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae bathodyn person anabl (a elwir yn “Bathodyn Glas”) yn galluogi'r deiliad i fanteisio ar nifer o gonsesiynau parcio ac esemptiadau rhag taliadau penodol sy'n gymwys i fodurwyr eraill. Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1786 Cy.123)) (“y prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi'r bathodynnau gan awdurdodau lleol.
Mae'r Rheoliadau'n addasu'r disgrifiad o bersonau y caniateir dyroddi bathodyn person anabl iddynt fel y'i nodir yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau.
Mewnosodir dosbarth newydd o gymhwystra sy'n cynnwys personau sy'n derbyn Taliadau Annibyniaeth Bersonol ar lefelau rhagnodedig.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rhan IIIA o'r Atodlen i'r prif Reoliadau o ran y gofynion ffotograffig ar gyfer personau ag anableddau sy'n eu hatal rhag edrych yn syth at y camera, agor eu llygaid neu gau eu ceg. Mae'r Rheoliadau yn darparu, pan na ellir bodloni'r gofynion hyn, y derbynnir ffotograff o hyd, cyhyd â bod datganiad ysgrifenedig yn cael ei ddarparu gydag ef sy'n esbonio'r rhesymau dros beidio â chydymffurfio.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar yr effaith y bydd y diwygiadau hyn yn ei chael ar y gost i'r sector busnes a'r sector gwirfoddol ar gael oddi wrth yr Is-adran Trafnidiaeth Integredig, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).
Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 2000/1786 (Cy.123).
O.S. 2013/377.