xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 438 (Cy.54)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

27 Chwefror 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Mawrth 2013

Yn dod i rym

8 Ebrill 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970(1), a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 8 Ebrill 2013.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r Rheoliadau

2.—(1Mae Rheoliadau Pobl Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000(4) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—

mae i “asesiad” yr un ystyr ag a roddir i “assessment” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2013;

ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliad Annibyniaeth Bersonol) 2013(5);.

(3Yn rheoliad 4 (disgrifiadau o bersonau anabl), ym mharagraff (2)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (d), yn lle'r atalnod llawn rhodder hanner colon;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (dd), yn lle'r atalnod llawn rhodder hanner colon; ac

(c)ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—

(e)yn derbyn y gydran symudedd o'r taliad annibyniaeth bersonol ar ôl cyflawni asesiad gan sgorio—

(i)o leiaf 12 pwynt mewn perthynas â'r gweithgaredd “cynllunio a dilyn taith”; neu

(ii)o leiaf 8 pwynt mewn perthynas â'r gweithgaredd “symud o gwmpas”,

fel y nodir yn Rhan 3 o Atodlen 1 i Reoliadau 2013.

(4Yn rheoliad 6 (ffi am roi bathodyn a chyfnod y rhoi), ym mharagraff (4)(b)—

(a)yn lle “neu 4(2)(ch)” rhodder “, 4(2)(ch) neu 4(2)(e)”; a

(b)ym mharagraff (ii) yn lle “neu'r atodiad symudedd” rhodder “, yr atodiad symudedd neu'r gydran symudedd o'r taliad annibyniaeth bersonol”.

(5Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol

9A.(1) Pan fo person yn bodloni paragraff (2)—

(a)mae'r person i gael ei drin fel petai'n berson anabl at ddibenion rheoliad 7; a

(b)nid yw rheoliad 9(1)(c) yn gymwys i'r person,

hyd nes bod y cyfnod y rhoddwyd y bathodyn person anabl y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b)(i) ar ei gyfer wedi dod i ben.

(2) Mae person yn bodloni'r paragraff hwn os—

(a)yw hawl y person i'r lwfans byw i'r anabl yn terfynu yn unol â Rheoliadau 2013;

(b)ar y diwrnod olaf y mae gan y person hawl i'r lwfans byw i'r anabl, bod y person—

(i)yn meddu ar fathodyn person anabl sydd wedi ei roi yn unol â'r Rheoliadau hyn, a

(ii)yn berson anabl at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd bodloni rheoliad 4(1) a (2)(a);

(c)yn effeithiol o'r diwrnod canlynol, nad yw'r person, at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn berson anabl mwyach gan nad yw'r person yn bodloni rheoliad 4(1)(a) a (2)(a); ac

(ch)nad yw cyfnod y rhoddwyd y bathodyn a grybwyllwyd yn is-baragraff (b) ar ei gyfer eto wedi dod i ben.

(6Yn yr Atodlen, Rhan IIIA, paragraff 2—

(a)yn is-baragraff (a) yn lle “baragraffau (b) ac (c)”, rhodder “baragraffau (b), (c), (ca) ac (cb).”;

(b)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(ca)pan nad yw person, oherwydd ei anabledd, yn gallu bodloni unrhyw un neu ragor o ofynion—

(i)paragraff (a)(vi)(cc);

(ii)paragraff (a)(vi)(chch); neu

(iii)paragraff (a)(vi)(dd),

rhaid cyflwyno datganiad ysgrifenedig gyda'r ffotograff yn cadarnhau'r rhesymau pam na ellir bodloni gofynion y paragraffau hynny.

(c)ar ôl is-baragraff newydd (ca) mewnosoder—

(cb)rhaid i unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a ddarperir i awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff (ca)—

(i)bod wedi ei lofnodi a'i ddyddio gan y ceisydd; neu

(ii)pan na fo'n bosibl i'r ceisydd lofnodi a dyddio'r datganiad, rhaid i gynrychiolydd y ceisydd ei lofnodi a'i ddyddio, gan nodi natur ei berthynas â'r ceisydd.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

27 Chwefror 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae bathodyn person anabl (a elwir yn “Bathodyn Glas”) yn galluogi'r deiliad i fanteisio ar nifer o gonsesiynau parcio ac esemptiadau rhag taliadau penodol sy'n gymwys i fodurwyr eraill. Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1786 Cy.123)) (“y prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi'r bathodynnau gan awdurdodau lleol.

Mae'r Rheoliadau'n addasu'r disgrifiad o bersonau y caniateir dyroddi bathodyn person anabl iddynt fel y'i nodir yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau.

Mewnosodir dosbarth newydd o gymhwystra sy'n cynnwys personau sy'n derbyn Taliadau Annibyniaeth Bersonol ar lefelau rhagnodedig.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rhan IIIA o'r Atodlen i'r prif Reoliadau o ran y gofynion ffotograffig ar gyfer personau ag anableddau sy'n eu hatal rhag edrych yn syth at y camera, agor eu llygaid neu gau eu ceg. Mae'r Rheoliadau yn darparu, pan na ellir bodloni'r gofynion hyn, y derbynnir ffotograff o hyd, cyhyd â bod datganiad ysgrifenedig yn cael ei ddarparu gydag ef sy'n esbonio'r rhesymau dros beidio â chydymffurfio.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar yr effaith y bydd y diwygiadau hyn yn ei chael ar y gost i'r sector busnes a'r sector gwirfoddol ar gael oddi wrth yr Is-adran Trafnidiaeth Integredig, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).

(3)

Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(5)

O.S. 2013/377.