Enwi cymhwyso a chychwynI11

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2013.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

DehongliI22

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cymwysedig” (“qualified”) yw cymwysedig at ddibenion y Ddeddf;

  • ystyr “Y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Bwyd 1990;

  • ystyr “perchennog” (“owner”) yw—

    1. a

      yn achos nwyddau sydd ar daith, y traddodwr (neu, os nad oes gan y traddodwr gyfeiriad yng Nghymru, y traddodai);

    2. b

      yn achos nwyddau o beiriant gwerthu—

      1. i

        os yw'r peiriant wedi ei farcio ag enw a chyfeiriad ei berchennog, ac os yw'r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru, y person hwnnw; a

      2. ii

        mewn unrhyw achos arall, meddiannydd y fangre y saif y peiriant ynddi, neu y gosodwyd y peiriant ynghlwm wrthi;

    3. c

      mewn unrhyw achos arall, y person a oedd yn ymddangos i'r swyddog awdurdodedig yn berchennog y sampl, pan gaffaelwyd y sampl gan y swyddog.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Darpariaethau samplu a dadansoddi nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddyntI33

Nid yw'r darpariaethau o'r Rheoliadau hyn a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 1 yn gymwys i unrhyw sampl a gymerwyd o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen honno.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Cymwysterau dadansoddwyrI44

Mae person yn gymwysedig i fod yn ddadansoddwr bwyd neu'n ddadansoddwr cyhoeddus, os oes gan y person hwnnw gymhwyster Meistr mewn Dadansoddi Cemegol, a ddyfarnwyd iddo gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Cymwysterau archwilwyr bwydI55

1

Mae person yn gymwysedig i fod yn archwilydd bwyd—

a

os oedd y person hwnnw, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn gymwysedig ar gyfer bod yn archwilydd bwyd o dan reoliad 4 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 19906; neu

b

os oedd y person hwnnw, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw,

i

yn meddu ar gymhwyster a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 2; a

ii

wedi bod yn cynnal archwiliadau bwyd dros gyfnod neu gyfnodau cyfanredol o dair blynedd o leiaf, yn un neu ragor o'r labordai a restrir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno.

2

Wrth gyfrifo'r cyfnod cymhwyso ym mharagraff (1)(b)(ii), rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnod a dreuliwyd fel person israddedig mewn labordy a bennir ym mharagraffau 4 i 6 o Ran 2 o Atodlen 2.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Cyfyngiadau sy'n gymwys i ddadansoddwyr ac archwilwyrI66

1

Ni chaiff cyfarwyddwr, perchennog na chyflogai unrhyw fusnes bwyd, na phartner mewn busnes bwyd, weithredu fel dadansoddwr cyhoeddus neu archwilydd bwyd ar gyfer yr ardal y lleolir y cyfryw fusnes ynddi.

2

Ni chaiff person a grybwyllir ym mharagraff (1) ddadansoddi nac archwilio unrhyw sampl y gŵyr y person hwnnw ei bod wedi ei chymryd o'r busnes hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei dadansoddiI77

1

Rhaid i swyddog awdurdodedig, sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi, beri bod y sampl, yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn cael ei rhannu'n dair rhan.

2

Os cynwysyddion seliedig sydd yn y sampl ac os byddai agor y cynwysyddion, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn llesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl drwy osod y cynwysyddion mewn tair lot, a rhaid trin pob lot unigol fel rhan o'r sampl.

3

Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—

a

os oes angen, rhoi pob rhan mewn cynhwysydd addas a selio pob cynhwysydd;

b

marcio neu labelu pob rhan neu gynhwysydd;

c

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhoi un rhan i'r perchennog a rhoi hysbysiad i'r perchennog i'r perwyl y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

d

cyflwyno un rhan i'w dadansoddi; ac

e

cadw un rhan ar gyfer ei chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 8.

4

Os yw'r swyddog awdurdodedig o'r farn nad yw rhannu'r sampl yn rhesymol ymarferol, neu fod hynny'n debygol o lesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r perchennog y bydd y sampl cyfan yn cael ei dadansoddi heb ei rhannu, a chyflwyno'r sampl i'w dadansoddi.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Cyflwyno'r rhan o'r sampl a gadwyd yn ôlI88

1

Os oes rhan o sampl wedi ei chadw'n ôl o dan reoliad 7(3)(e) ac

a

achos cyfreithiol yn yr arfaeth neu eisoes wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd mewn cysylltiad â'r sampl honno; a

b

yr erlyniad yn bwriadu rhoi canlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod gerbron fel tystiolaeth yn yr achos,

mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys.

2

Yn achos swyddog awdurdodedig—

a

caiff, o'i wirfodd ei hunan, anfon y rhan o'r sampl a gadwyd yn ôl at Gemegydd y Llywodraeth ar gyfer ei dadansoddi;

b

rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan yr erlynydd (os yw'r erlynydd yn rhywun ac eithrio'r swyddog ei hunan);

c

rhaid iddo wneud hynny os yw'r llys yn gorchymyn felly; neu

d

yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y person cyhuddedig.

3

Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, neu gyfarwyddo dadansoddwr bwyd i ddadansoddi, y rhan a anfonwyd o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif o ddadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth at y swyddog awdurdodedig.

4

Rhaid i unrhyw dystysgrif a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth gael ei llofnodi gan, neu ar ran, Cemegydd y Llywodraeth, ond caniateir i'r dadansoddiad gael ei wneud gan berson sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd llofnodwr y dystysgrif.

5

Ar ôl cael y dystysgrif, rhaid i'r swyddog awdurdodedig, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gyflenwi copi o'r dystysgrif i'r erlynydd (os yw'r erlynydd yn rhywun ac eithrio'r swyddog awdurdodedig ei hunan) ac i'r person cyhuddedig.

6

Pan wneir cais o dan baragraff (2)(d), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person cyhuddedig, yn gofyn iddo dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, i ddiwallu rhan neu'r cyfan o'r gostau a dynnir gan Gemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os nad yw'r person cyhuddedig yn cydsynio i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei harchwilioI99

Rhaid i swyddog awdurdodedig, sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio—

a

os oes angen, rhoi'r sampl mewn cynhwysydd addas a selio'r cynhwysydd;

b

marcio neu labelu'r sampl neu'r cynhwysydd; ac

c

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol,

i

cyflwyno'r sampl i'w harchwilio, a

ii

rhoi hysbysiad i'r perchennog i'r perwyl bod y sampl i gael ei harchwilio.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

TystysgrifauI1010

1

Pan fo sampl a gaffaelwyd o dan adran 29 o'r Ddeddf wedi ei dadansoddi neu ei harchwilio, mae hawl gan berchennog y sampl, drwy wneud cais, i gael copi o'r dystysgrif dadansoddi neu archwilio, gan yr awdurdod sy'n gorfodi.

2

Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddwr bwyd neu archwilydd bwyd o dan adran 30(6) o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i ba bynnag addasiadau a fydd yn ofynnol yn rhesymol oherwydd amgylchiadau, fod yn yr un ffurf â'r enghraifft a ddangosir yn Atodlen 3.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Diwygiadau canlyniadolI1111

Yn y darpariaethau canlynol, yn lle'r geiriau “Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990” rhodder “Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013”—

a

paragraffau (10) ac (11) o reoliad 13 (dadansoddi etc. samplau) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20067;

b

paragraffau (10) ac (11) o reoliad 38 (dadansoddi etc. samplau) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 20098;

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

DirymuI1212

Dirymir Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 19909 o ran Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1

Lesley GriffithsY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru