2013 Rhif 479 (Cy.55)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 27(2) a (5), 30(9), 31(1),(2)(c),(d),(e),(g) ac (h), 48(1) a 49(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freinir bellach ynddynt hwy2.

I'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau canlynol o dan bwerau a gynhwysir yn Neddf 1990, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffyto-iechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd4.

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5, ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.