2013 Rhif 479 (Cy.55)
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 27(2) a (5), 30(9), 31(1),(2)(c),(d),(e),(g) ac (h), 48(1) a 49(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freinir bellach ynddynt hwy2.
I'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau canlynol o dan bwerau a gynhwysir yn Neddf 1990, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffyto-iechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd4.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5, ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi cymhwyso a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2013.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cymwysedig” (“qualified”) yw cymwysedig at ddibenion y Ddeddf;
ystyr “Y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Bwyd 1990;
ystyr “perchennog” (“owner”) yw—
- a
yn achos nwyddau sydd ar daith, y traddodwr (neu, os nad oes gan y traddodwr gyfeiriad yng Nghymru, y traddodai);
- b
yn achos nwyddau o beiriant gwerthu—
- i
os yw'r peiriant wedi ei farcio ag enw a chyfeiriad ei berchennog, ac os yw'r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru, y person hwnnw; a
- ii
mewn unrhyw achos arall, meddiannydd y fangre y saif y peiriant ynddi, neu y gosodwyd y peiriant ynghlwm wrthi;
- i
- c
mewn unrhyw achos arall, y person a oedd yn ymddangos i'r swyddog awdurdodedig yn berchennog y sampl, pan gaffaelwyd y sampl gan y swyddog.
- a
Darpariaethau samplu a dadansoddi nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt3
Nid yw'r darpariaethau o'r Rheoliadau hyn a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 1 yn gymwys i unrhyw sampl a gymerwyd o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen honno.
Cymwysterau dadansoddwyr4
Mae person yn gymwysedig i fod yn ddadansoddwr bwyd neu'n ddadansoddwr cyhoeddus, os oes gan y person hwnnw gymhwyster Meistr mewn Dadansoddi Cemegol, a ddyfarnwyd iddo gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Cymwysterau archwilwyr bwyd5
1
Mae person yn gymwysedig i fod yn archwilydd bwyd—
a
os oedd y person hwnnw, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn gymwysedig ar gyfer bod yn archwilydd bwyd o dan reoliad 4 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 19906; neu
b
os oedd y person hwnnw, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw,
i
yn meddu ar gymhwyster a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 2; a
ii
wedi bod yn cynnal archwiliadau bwyd dros gyfnod neu gyfnodau cyfanredol o dair blynedd o leiaf, yn un neu ragor o'r labordai a restrir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno.
2
Wrth gyfrifo'r cyfnod cymhwyso ym mharagraff (1)(b)(ii), rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnod a dreuliwyd fel person israddedig mewn labordy a bennir ym mharagraffau 4 i 6 o Ran 2 o Atodlen 2.
Cyfyngiadau sy'n gymwys i ddadansoddwyr ac archwilwyr6
1
Ni chaiff cyfarwyddwr, perchennog na chyflogai unrhyw fusnes bwyd, na phartner mewn busnes bwyd, weithredu fel dadansoddwr cyhoeddus neu archwilydd bwyd ar gyfer yr ardal y lleolir y cyfryw fusnes ynddi.
2
Ni chaiff person a grybwyllir ym mharagraff (1) ddadansoddi nac archwilio unrhyw sampl y gŵyr y person hwnnw ei bod wedi ei chymryd o'r busnes hwnnw.
Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei dadansoddi7
1
Rhaid i swyddog awdurdodedig, sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi, beri bod y sampl, yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn cael ei rhannu'n dair rhan.
2
Os cynwysyddion seliedig sydd yn y sampl ac os byddai agor y cynwysyddion, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn llesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl drwy osod y cynwysyddion mewn tair lot, a rhaid trin pob lot unigol fel rhan o'r sampl.
3
Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—
a
os oes angen, rhoi pob rhan mewn cynhwysydd addas a selio pob cynhwysydd;
b
marcio neu labelu pob rhan neu gynhwysydd;
c
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhoi un rhan i'r perchennog a rhoi hysbysiad i'r perchennog i'r perwyl y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;
d
cyflwyno un rhan i'w dadansoddi; ac
e
cadw un rhan ar gyfer ei chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 8.
4
Os yw'r swyddog awdurdodedig o'r farn nad yw rhannu'r sampl yn rhesymol ymarferol, neu fod hynny'n debygol o lesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r perchennog y bydd y sampl cyfan yn cael ei dadansoddi heb ei rhannu, a chyflwyno'r sampl i'w dadansoddi.
Cyflwyno'r rhan o'r sampl a gadwyd yn ôl8
1
Os oes rhan o sampl wedi ei chadw'n ôl o dan reoliad 7(3)(e) ac
a
achos cyfreithiol yn yr arfaeth neu eisoes wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd mewn cysylltiad â'r sampl honno; a
b
yr erlyniad yn bwriadu rhoi canlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod gerbron fel tystiolaeth yn yr achos,
mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys.
2
Yn achos swyddog awdurdodedig—
a
caiff, o'i wirfodd ei hunan, anfon y rhan o'r sampl a gadwyd yn ôl at Gemegydd y Llywodraeth ar gyfer ei dadansoddi;
b
rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan yr erlynydd (os yw'r erlynydd yn rhywun ac eithrio'r swyddog ei hunan);
c
rhaid iddo wneud hynny os yw'r llys yn gorchymyn felly; neu
d
yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y person cyhuddedig.
3
Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, neu gyfarwyddo dadansoddwr bwyd i ddadansoddi, y rhan a anfonwyd o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif o ddadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth at y swyddog awdurdodedig.
4
Rhaid i unrhyw dystysgrif a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth gael ei llofnodi gan, neu ar ran, Cemegydd y Llywodraeth, ond caniateir i'r dadansoddiad gael ei wneud gan berson sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd llofnodwr y dystysgrif.
5
Ar ôl cael y dystysgrif, rhaid i'r swyddog awdurdodedig, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gyflenwi copi o'r dystysgrif i'r erlynydd (os yw'r erlynydd yn rhywun ac eithrio'r swyddog awdurdodedig ei hunan) ac i'r person cyhuddedig.
6
Pan wneir cais o dan baragraff (2)(d), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person cyhuddedig, yn gofyn iddo dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, i ddiwallu rhan neu'r cyfan o'r gostau a dynnir gan Gemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os nad yw'r person cyhuddedig yn cydsynio i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.
Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei harchwilio9
Rhaid i swyddog awdurdodedig, sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio—
a
os oes angen, rhoi'r sampl mewn cynhwysydd addas a selio'r cynhwysydd;
b
marcio neu labelu'r sampl neu'r cynhwysydd; ac
c
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol,
i
cyflwyno'r sampl i'w harchwilio, a
ii
rhoi hysbysiad i'r perchennog i'r perwyl bod y sampl i gael ei harchwilio.
Tystysgrifau10
1
Pan fo sampl a gaffaelwyd o dan adran 29 o'r Ddeddf wedi ei dadansoddi neu ei harchwilio, mae hawl gan berchennog y sampl, drwy wneud cais, i gael copi o'r dystysgrif dadansoddi neu archwilio, gan yr awdurdod sy'n gorfodi.
2
Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddwr bwyd neu archwilydd bwyd o dan adran 30(6) o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i ba bynnag addasiadau a fydd yn ofynnol yn rhesymol oherwydd amgylchiadau, fod yn yr un ffurf â'r enghraifft a ddangosir yn Atodlen 3.
Diwygiadau canlyniadol11
Yn y darpariaethau canlynol, yn lle'r geiriau “Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990” rhodder “Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013”—
a
paragraffau (10) ac (11) o reoliad 13 (dadansoddi etc. samplau) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20067;
b
paragraffau (10) ac (11) o reoliad 38 (dadansoddi etc. samplau) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 20098;
Dirymu12
Dirymir Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 19909 o ran Cymru.
ATODLEN 1Offerynnau nad yw darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
Enw | Cyfeirnod | Darpariaethau penodedig |
---|---|---|
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) 1997 | Rheoliadau 7,8,9 a 10 | |
Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007 | Rheoliadau 7,8 a 9 | |
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 | Rheoliadau 7,8 a 9 | |
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010 (i'r graddau y mae sampl yn un sydd i'w ddadansoddi yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif1881/2006 sy'n pennu'r lefelau uchaf ar gyfer rhai halogion mewn bwydydd) | Rheoliadau 7,8 a 9 | |
Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 | Rheoliadau 7,8 a 9 |
ATODLEN 2Cymwysterau Archwilwyr Bwyd
RHAN 1
1
Gradd gyntaf (gydag anrhydedd) mewn microbioleg (beth bynnag fo teitl y radd).
2
Gradd Meistr yn y Gwyddorau, ar yr amod—
a
y dyfarnwyd y radd yn dilyn arholiad yn hytrach na thraethawd; a
b
bod o leiaf un papur yn y radd yn bapur mewn microbioleg.
3
Cymrodoriaeth Sefydliad y Gwyddorau Biomeddygol, os enillwyd y Gymrodoriaeth honno ar sail pasio'r arholiad diploma arbenigol uwch mewn microbioleg feddygol, a osodir gan y Sefydliad hwnnw.
4
Y radd Meistr mewn Dadansoddi Cemegol a ddyfernir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
5
Cymrodoriaeth neu Aelodaeth o'r Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd ynghyd ag aelodaeth o'i Grŵp Proffesiynol Microbioleg Bwyd.
6
Ym mharagraffau 1 a 2 o'r Rhan hon, ystyr “gradd” (“degree”) yw gradd a ddyfarnwyd gan gorff a gydnabyddir at ddibenion adran 214 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (sy'n ymwneud â chyrff sydd â phŵer i ddyfarnu graddau yn y Deyrnas Unedig) neu a ddyfarnwyd gan brifysgol mewn Aelod-wladwriaeth arall.
RHAN 2
1
Labordy Cemegydd y Llywodraeth.
2
Labordy sy'n eiddo i Adran y Llywodraeth neu labordy o dan reolaeth gyfatebol llywodraeth Aelod-wladwriaeth arall.
3
Labordy a benodwyd yn labordy rheoli swyddogol o dan Reoliad 882/2004.
4
Labordy prifysgol yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.
5
Labordy 'corff cyllidadwy' o fewn yr ystyr a roddir i “fundable body” yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 200510
6
Labordy Coleg Amaethyddol yr Alban.
7
Labordy sy'n arbenigo mewn microbioleg bwyd ac a achredwyd ar gyfer ISO/IEC 17025.
ATODLEN 3Tystysgrif Dadansoddiad a/neu Archwiliad
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)