Cyfyngiadau sy'n gymwys i ddadansoddwyr ac archwilwyrI16

1

Ni chaiff cyfarwyddwr, perchennog na chyflogai unrhyw fusnes bwyd, na phartner mewn busnes bwyd, weithredu fel dadansoddwr cyhoeddus neu archwilydd bwyd ar gyfer yr ardal y lleolir y cyfryw fusnes ynddi.

2

Ni chaiff person a grybwyllir ym mharagraff (1) ddadansoddi nac archwilio unrhyw sampl y gŵyr y person hwnnw ei bod wedi ei chymryd o'r busnes hwnnw.