Rhagolygol
6.—(1) Ni chaiff cyfarwyddwr, perchennog na chyflogai unrhyw fusnes bwyd, na phartner mewn busnes bwyd, weithredu fel dadansoddwr cyhoeddus neu archwilydd bwyd ar gyfer yr ardal y lleolir y cyfryw fusnes ynddi.
(2) Ni chaiff person a grybwyllir ym mharagraff (1) ddadansoddi nac archwilio unrhyw sampl y gŵyr y person hwnnw ei bod wedi ei chymryd o'r busnes hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 6.4.2013, gweler rhl. 1