- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“Rheoliadau 1992”), a Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011 a Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011 y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel (“y Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol”).
Mae Rheoliadau 1992 yn ymwneud ag asesu gallu person i dalu am lety a drefnir gan awdurdodau lleol o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1992 i ddiystyru unrhyw daliad annibyniaeth y lluoedd arfog yn ei gyfanrwydd a thaliad incwm gwarantedig yn ei gyfanrwydd, yn hytrach nag yn rhannol yn unig, wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion at ddibenion asesu gallu person i dalu am y llety hwnnw. Mae taliad annibyniaeth y lluoedd arfog yn daliad a wneir o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2011. Mae taliad incwm gwarantedig yn daliad misol i ddigolledu am golli'r gallu i ennill a wneir pan fo'r prif achos o anaf neu salwch o ganlyniad i wasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Mae rheoliad 3 hefyd yn diwygio Rheoliadau 1992 i ddiystyru'r £10 cyntaf o daliad incwm gwarantedig goroeswr a wneir o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011. Mae taliad incwm gwarantedig goroeswr yn daliad a wneir tan farwolaeth priod, partner sifil neu ddibynnydd mewn oed sy'n goroesi.
Mae'r Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol yn ymwneud ag asesu gallu person i dalu am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl a drefnir gan awdurdod lleol o dan Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010.
Mae rheoliadau 4 a 5 yn diwygio rheoliadau 14 ac 16 o'r Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol yn y drefn honno i ddiystyru unrhyw daliad incwm gwarantedig ac unrhyw daliad annibyniaeth y lluoedd arfog yn eu cyfanrwydd wrth gyfrifo gallu person i dalu am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Polisi a Strategaethau Gwasanaethau Cymdeithasol, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: