Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 638 (Cy.71)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2013

Gwnaed

18 Mawrth 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Mawrth 2013

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2013.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 8 Ebrill 2013.

(3Mae erthygl 2(c) yn dod i rym ar 29 Ebrill 2013.

(4Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992

2.  Mae paragraff (2) o erthygl 3 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (k)(4) yn lle “.” rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder—

(l)the standard or enhanced rate of the daily living component of personal independence payment under section 78(3) of the Welfare Reform Act 2012(5);;

(c)ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—

(m)universal credit under Part 1 of the Welfare Reform Act 2012 the calculation of which includes an amount under regulation 27(1) of the Universal Credit Regulations 2013(6) in respect of the fact that the person in question has limited capability for work or limited capability for work and work-related activity or would include such an amount but for regulation 27(4) or 29(4) of those Regulations..

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

18 Mawrth 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992 (“Gorchymyn 1992”) yn rhagnodi amodau y mae'n rhaid i bersonau sydd â nam meddyliol difrifol a gwahanol bersonau o ddisgrifiadau eraill eu cyflawni er mwyn cael eu diystyried at ddibenion disgowntiau'r dreth gyngor y mae adran 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn rhagnodi ar eu cyfer.

Er mwyn i berson sydd â nam meddyliol difrifol gael ei ddiystyried at ddibenion disgowntiau'r dreth gyngor mae Gorchymyn 1992 yn rhagnodi bod yn rhaid iddo fod yn derbyn budd-dal cymwys. Mae erthygl 2(a) a (b) yn diwygio amodau Gorchymyn 1992 fel bod y rhan o'r taliad annibyniaeth bersonol sydd ar gyfer byw bob dydd yn cael ei chynnwys o fewn y diffiniad o fudd-dal cymwys.

Mae erthygl 2(c) yn diwygio ymhellach Orchymyn 1992 er mwyn cynnwys credyd cynhwysol, sy'n cynnwys swm i'w dalu i berson oherwydd gallu cyfyngedig y person hwnnw i weithio neu allu cyfyngedig i wneud gweithgareddau gwaith neu weithgareddau sy'n ymwneud â gwaith, yn y diffiniad o fudd-dal cymwys.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol ar y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

Mewnosodwyd paragraff (k) gan O.S. 1996/636.