xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
YSTADEGAU SWYDDOGOL, CYMRU
Gwnaed
12 Mawrth 2013
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 6(1)(b) a (2) o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007(1).
Yn unol ag adran 6(3) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori รข'r Bwrdd Ystadegau.
Yn unol ag adran 65(7) o'r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.