Addasiadau eraill i ddeddfiadauLL+C
7. Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, heblaw deddfiad sy'n ymwneud â mordwyo, mae unrhyw gyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 7 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)