Dileu pwyllgorau ymgynghorolLL+C
9.—(1) Mae'r canlynol wedi eu dileu—
(a)Pwyllgor Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd a sefydlwyd yn unol ag adran 12(6) o Ddeddf 1995;
(b)y pwyllgor ymgynghorol pysgodfeydd rhanbarthol a lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 13(5) o Ddeddf 1995.
(2) Gan hynny, mae'r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 1995 wedi eu diddymu—
(a)adran 12(1);
(b)adran 13(2);
(c)Atodlen 3;
(d)paragraff 3 o Atodlen 23.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 9 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
Cafodd y pwyllgorau eraill a sefydlwyd o dan adran 12 o Ddeddf 1995 eu dileu gan Orchymyn Cyrff Cyhoeddus (Dileu Pwyllgorau Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd) 2012 (O.S. 2012/2407).
Cafodd y pwyllgorau eraill a sefydlwyd o dan adran 13 eu dileu gan Orchymyn Cyrff Cyhoeddus (Dileu Pwyllgorau Ymgynghorol Pysgodfeydd Rhanbarthol a Lleol) 2012 (O.S. 2012/2406).