Search Legislation

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a rhychwant

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013.

(3Mae i ddiwygiad, diddymiad neu ddirymiad a wneir gan y Gorchymyn hwn yr un rhychwant â'r ddarpariaeth y mae'n ymwneud â hi.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Corff” (“the Body”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1);

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995(2);

ystyr “deddfiad lleol” (“local enactment”) yw unrhyw Ddeddf leol neu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf leol neu yn rhinwedd Deddf leol;

ystyr “y Gorchymyn Sefydlu” (“the Establishment Order”) yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012(3).

Swyddogaethau cyffredinol Corff Adnoddau Naturiol Cymru

3.  Mae Atodlen 1 yn cynnwys diwygiadau i'r Gorchymyn Sefydlu.

Addasu a throsglwyddo swyddogaethau, darpariaethau canlyniadol a darpariaethau eraill

4.—(1Mae Atodlenni 2 a 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sydd—

(a)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;

(b)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;

(c)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;

(d)yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;

(e)yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.

(2Mae Atodlenni 4, 5 a 6 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sydd—

(a)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;

(b)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;

(c)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;

(d)yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;

(e)yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.

Addasiadau eraill i ddeddfiadau

5.  Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at CCGC (sut bynnag y'i mynegir), ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at CCGC, i'w drin fel cyfeiriad at y Corff.

6.  Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at y Comisiynwyr Coedwigaeth (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at y Comisiynwyr Coedwigaeth, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.

7.  Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, heblaw deddfiad sy'n ymwneud â mordwyo, mae unrhyw gyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.

Dileu Cyngor Cefn Gwlad Cymru

8.—(1Mae CCGC wedi ei ddileu.

(2Gan hynny, mae'r canlynol wedi eu diddymu—

(a)adrannau 128 i 134 o Ddeddf 1990(4);

(b)Atodlenni 6, 8 a 9 i Ddeddf 1990(5);

(c)Rhan 1 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(6).

Dileu pwyllgorau ymgynghorol

9.—(1Mae'r canlynol wedi eu dileu—

(a)Pwyllgor Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd a sefydlwyd yn unol ag adran 12(6) o Ddeddf 1995;

(b)y pwyllgor ymgynghorol pysgodfeydd rhanbarthol a lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 13(5) o Ddeddf 1995.

(2Gan hynny, mae'r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 1995 wedi eu diddymu—

(a)adran 12(7);

(b)adran 13(8);

(c)Atodlen 3;

(d)paragraff 3 o Atodlen 23.

Darpariaethau trosiannol ac arbedion

10.  Mae Atodlen 7 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion.

Alun Davies

Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

25 Mawrth 2013

Back to top

Options/Help