Enwi, cychwyn a rhychwantI11

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013.

2

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013.

3

Mae i ddiwygiad, diddymiad neu ddirymiad a wneir gan y Gorchymyn hwn yr un rhychwant â'r ddarpariaeth y mae'n ymwneud â hi.

Annotations:
Commencement Information
I1

Ergl. 1 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

DehongliI22

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Corff” (“the Body”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 19902;

  • ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 19953;

  • ystyr “deddfiad lleol” (“local enactment”) yw unrhyw Ddeddf leol neu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf leol neu yn rhinwedd Deddf leol;

  • ystyr “y Gorchymyn Sefydlu” (“the Establishment Order”) yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 20124.

Annotations:
Commencement Information
I2

Ergl. 2 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Swyddogaethau cyffredinol Corff Adnoddau Naturiol CymruI33

Mae Atodlen 1 yn cynnwys diwygiadau i'r Gorchymyn Sefydlu.

Annotations:
Commencement Information
I3

Ergl. 3 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Addasu a throsglwyddo swyddogaethau, darpariaethau canlyniadol a darpariaethau eraillI44

1

Mae Atodlenni 2 a 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sydd—

a

yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;

b

yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;

c

yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;

d

yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;

e

yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.

2

Mae Atodlenni 4, 5 a 6 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sydd—

a

yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;

b

yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;

c

yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;

d

yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;

e

yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.

Annotations:
Commencement Information
I4

Ergl. 4 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Addasiadau eraill i ddeddfiadau

I55

Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at CCGC (sut bynnag y'i mynegir), ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at CCGC, i'w drin fel cyfeiriad at y Corff.

Annotations:
Commencement Information
I5

Ergl. 5 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

I66

Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at y Comisiynwyr Coedwigaeth (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at y Comisiynwyr Coedwigaeth, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.

Annotations:
Commencement Information
I6

Ergl. 6 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

I77

Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, heblaw deddfiad sy'n ymwneud â mordwyo, mae unrhyw gyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.

Annotations:
Commencement Information
I7

Ergl. 7 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Dileu Cyngor Cefn Gwlad CymruI88

1

Mae CCGC wedi ei ddileu.

2

Gan hynny, mae'r canlynol wedi eu diddymu—

a

adrannau 128 i 134 o Ddeddf 19905;

b

Atodlenni 6, 8 a 9 i Ddeddf 19906;

c

Rhan 1 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 19497.

Annotations:
Commencement Information
I8

Ergl. 8 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Dileu pwyllgorau ymgynghorolI99

1

Mae'r canlynol wedi eu dileu—

a

Pwyllgor Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd a sefydlwyd yn unol ag adran 12(6) o Ddeddf 1995;

b

y pwyllgor ymgynghorol pysgodfeydd rhanbarthol a lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 13(5) o Ddeddf 1995.

2

Gan hynny, mae'r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 1995 wedi eu diddymu—

a

adran 128;

b

adran 139;

c

Atodlen 3;

d

paragraff 3 o Atodlen 23.

Annotations:
Commencement Information
I9

Ergl. 9 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Darpariaethau trosiannol ac arbedionI1010

Mae Atodlen 7 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion.

Annotations:
Commencement Information
I10

Ergl. 10 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

Alun DaviesGweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru