15. Ar ôl erthygl 12 mewnosoder—LL+C
“Pŵer i godi tâl
12A.—(1) Caiff y Corff—
(a)codi tâl am y gwaith y mae'n ei wneud ac am nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau y mae'n eu darparu;
(b)caniatáu i berson arall godi taliadau, ar unrhyw delerau sy'n addas ym marn y Corff, am gyfleusterau y mae'r person hwnnw yn eu darparu o dan drefniadau a wnaed o dan erthygl 5H.
(2) Caiff unrhyw drefniant rhwng y Corff a pherson arall a wneir yn unol â pharagraff (1), â chydsyniad Gweinidogion Cymru, gynnwys darpariaeth ynglŷn â rhannu elw.
(3) Mae'r pwerau a roddir gan yr erthygl hon yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad penodol ar godi tâl gan y Corff mewn achosion penodol neu gategorïau o achos a gynhwysir yn y deddfiad hwn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)