Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

19.—(1Mae'r Atodlen wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2Cyn paragraff 1 mewnosoder—

Dehongli

A1.  Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at gyflogeion i'r Corff yn cynnwys personau a secondiwyd i'r Corff.

(3Ym mharagraff 1(2), yn lle “Nid” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff 1A, nid”.

(4Ar ôl paragraff 1 mewnosoder—

Statws o ran gwarchodfeydd natur

1A.(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i dir y mae gan y Corff fuddiant ynddo ac sy'n cael ei reoli fel gwarchodfa natur.

(2) At ddibenion cymhwyso unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol at y tir, mae'r Corff i'w drin fel adran o'r llywodraeth.

(3) Mae buddiant mewn tir yn cynnwys unrhyw ystâd mewn tir ac unrhyw hawl dros dir, p'un a yw'r hawl yn arferadwy yn rhinwedd y berchnogaeth ar fuddiant yn y tir ynteu yn rhinwedd trwydded neu gytundeb.

(5Ym mharagraff 2(1)(d), hepgorer “llai na 2 na dim”.

(6Hepgorer paragraffau 3 a 4.

(7Ym mharagraff 5, yn lle “baragraff 4(3) (pan fo'n gymwys) a pharagraffau” rhodder “baragraffau”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)