
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Schedule
only
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2013.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013, ATODLEN 3.

Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 4(1)
ATODLEN 3LL+CMESURAU'R CYNULLIAD
1. Yn adran 6(1)(f) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
2. Yn adrannau 8(1)(a), 11(1)(a) ac 16(1)(a) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
3.—(1) Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae'r tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y cofnod sy'n ymwneud â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
(3) Yn y man priodol, mewnosoder—
“Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“The Natural Resources Body for Wales”) | Safonau cyflenwi gwasanaethau |
| Safonau llunio polisi |
| Safonau gweithredu |
| Safonau cadw cofnodion”. |
Back to top