ATODLEN 3MESURAU'R CYNULLIAD
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1)I11
Yn adran 6(1)(f) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8)I22
Yn adrannau 8(1)(a), 11(1)(a) ac 16(1)(a) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)I33
1
Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae'r tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Hepgorer y cofnod sy'n ymwneud â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
3
Yn y man priodol, mewnosoder—
Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“The Natural Resources Body for Wales”)
Safonau cyflenwi gwasanaethau
Safonau llunio polisi
Safonau gweithredu
Safonau cadw cofnodion