ATODLEN 4OFFERYNNAU STATUDOL Y DU

Rheoliadau Gorfodi Cofrestru, Gwerthuso ac Awdurdodi Cemegau (REACH) 2008

305.

(1)

Yn Atodlen 1, mae'r Tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn y drydedd golofn, yn y rhesi y mae'r is-baragraff hwn yn gymwys iddynt, yn lle “The Environment Agency.” rhodder “In relation to England, the Environment Agency. In relation to Wales, the Natural Resources Body for Wales.”

(3)

Mae is-baragraff (2) yn gymwys i'r rhesi sy'n ymwneud â'r erthyglau a ganlyn—

(a)

erthygl 9(6);

(b)

erthygl 14(6);

(c)

erthygl 36(1);

(d)

erthygl 37(4);

(e)

y ddwy res sy'n ymwneud ag erthygl 37(5);

(f)

erthygl 37(6);

(g)

erthygl 38(1);

(h)

erthygl 38(3);

(i)

erthygl 56(1);

(j)

erthygl 56(2);

(k)

erthygl 60(10);

(l)

erthygl 67(1).