Erthygl 4(2)
ATODLEN 5LL+COFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001LL+C
1. Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2.—(1) Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.
(3) Yn y man priodol, mewnosoder—
“ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;”.
(4) Yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.
3. Yn rheoliadau 3 i 7, yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.
4. Yn Atodlen 1, ar ôl “Y Comisiwn Coedwigaeth” mewnosoder “(os oes gan dir sydd wedi ei gynnwys mewn map drafft ffin â Lloegr)”.
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001LL+C
5. Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
6. Yn rheoliadau 10(2)(ch) a 15(9), yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
7.—(1) Mae rheoliad 17 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (a), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru (y Cyngor)” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru (CANC)”.
(3) Yn is-baragraffau (b) ac (c), yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.
Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Apelau) (Cymru) 2002LL+C
8. Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Apelau) (Cymru) 2002() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
9.—(1) Mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a)hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”;
(b)yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;”.
(3) Ym mharagraff (2), yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.
10. Yn rheoliadau 3(e), 6 i 10, 12 i 14, 16 a 19, yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (gan gynnwys ym mhenawdau rheoliadau 7, 8 a 10), rhodder “CANC”.
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002LL+C
11.—(1) Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.
(3) Yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;”.
(4) Yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (ac eithrio yn y diffiniad o “y Cyngor”), rhodder “CANC”.
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002LL+C
12. Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
13.—(1) Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.
(3) Yn y man priodol, mewnosoder—
“ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;”.
(4) Yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (ac eithrio yn y diffiniad o “y Cyngor”), rhodder “CANC”.
14. Yn rheoliadau 3 i 10, yn lle “y Cyngor” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.
15. Yn Atodlen 1, ar ôl “Asiantaeth yr Amgylchedd” ac “Y Comisiwn Coedwigaeth” mewnosoder “(os oes gan dir sydd wedi ei gynnwys yn y map dros dro neu'r map terfynol ffin â Lloegr)”.
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002LL+C
16.—(1) Mae rheoliad 13(4) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (d), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
(3) Hepgorer is-baragraff (dd).
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003LL+C
17. Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
18. Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.
19.—(1) Mae rheoliad 4(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (b), yn lle “y Cyngor” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
(3) Hepgorer is-baragraff (ch).
Rheoliadau Mynediad i Cefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003LL+C
20. Mae Rheoliadau Mynediad i Cefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
21.—(1) Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.
(3) Yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;”.
22. Yn rheoliadau 12(1) a 14(7) a (9), yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.
Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003LL+C
23. Yn rheoliad 4(c) o Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003(), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Rheoliadau'r Diwydiant Dŵr (Amodau Rhagnodedig) (Ymgymerwyr yng Nghymru yn Unig neu yn Bennaf) 2004LL+C
24.—(1) Mae rheoliad 3(3) o Reoliadau'r Diwydiant Dŵr (Amodau Rhagnodedig) (Ymgymerwyr yng Nghymru yn Unig neu yn Bennaf) 2004() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-baragraff (b), rhodder—
“(b)where the determination relates to an area that is the whole or part of an area of a water undertaker whose area is wholly in Wales, the Natural Resources Body for Wales;”.
(3) Yn lle is-baragraff (c), rhodder—
“(c)where the determination relates to an area that is the whole or part of an area of a water undertaker whose area is partly in Wales and partly in England, the Natural Resources Body for Wales and the Environment Agency;”.
Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004LL+C
25. Yn rheoliad 5 o Reoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004LL+C
26.—(1) Mae rheoliad 4 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn perthynas â phob cynllun neu raglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, mae pob un o'r cyrff canlynol yn gyrff ymgynghori—
(a)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
(b)Cadw.”
(3) Ym mharagraff (2), yn lle “corff a grybwyllir ym mharagraff (1)” rhodder “Cadw”.
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005LL+C
27. Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
28. Yn rheoliad 5(1), yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;”.
29. Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)CANC;”.
30. Yn y darpariaethau a ganlyn, yn lle “Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”—
(a)rheoliad 21(1) a (2);
(b)rheoliadau 23 i 28;
(c)rheoliad 33(1);
(d)rheoliad 42(5)(a) a (6)(b)(ii);
(e)rheoliad 47(4)(b);
(f)rheoliad 49(5)(a) a (6);
(g)rheoliad 51(3) a (4)(b);
(h)rheoliad 53;
(i)rheoliad 55.
31. Ym mhennawd Rhan 8, yn lle “Swyddogaethau'r Asiantaeth” rhodder “Swyddogaethau CANC”.
32. Yn y darpariaethau a ganlyn, yn lle “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”—
(a)rheoliad 56;
(b)rheoliad 58 (gan gynnwys y pennawd);
(c)rheoliad 60(1);
(d)rheoliadau 62 i 64 (gan gynnwys pennawd rheoliad 63).
33. Yn rheoliad 65A(1), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “CANC”.
34. Yn rheoliadau 70 a 71(3), yn lle “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.
35.—(1) Mae Atodlen 7 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4—
(a)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “hysbysu'r Asiantaeth” rhodder “hysbysu CANC”;
(b)yn is-baragraff (3)(b), ar ôl “o Ogledd Iwerddon)” mewnosoder “neu'r Asiantaeth (os traddodir y gwastraff o Loegr)”;
(c)yn is-baragraff (4)—
(i)ar ôl “neu Ogledd Iwerddon” mewnosoder “neu Loegr”;
(ii)ar ôl “o Ogledd Iwerddon)” mewnosoder “neu'r Asiantaeth (os traddodir y gwastraff o Loegr)”.
(3) Ym mharagraff 5—
(a)yn is-baragraff (1), ar ôl “neu Ogledd Iwerddon” mewnosoder “neu Loegr”;
(b)yn is-baragraff (2)(a)(i), ar ôl “yng Ngogledd Iwerddon)” mewnosoder “neu'r Asiantaeth (pan fo'r gwastraff i'w draddodi i draddodai yn Lloegr)”.
36. Yn Atodlen 10, yn Ffurf Hysbysiadau Cosbau Penodedig, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005LL+C
37.—(1) Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “cyrff ymgynghori penodol”—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;
(b)hepgorer is-baragraff (b).
Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006LL+C
38. Yn rheoliad 18(2)(a) o Reoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006(), ar ôl “yr Asiantaeth” mewnosoder “, Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006LL+C
39. Mae Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
40. Yn rheoliadau 5(1), 7(1)(l) a 13(3)(b), ac yn Atodlen 3, ym mharagraffau 10(1) a 13, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” ac “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y maent yn digwydd, rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007LL+C
41.—(1) Yn yr Atodlen i Orchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007(), mae'r Tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y disgrifiad cyntaf o dir, yn y golofn gyntaf, yn lle “y Comisiynwyr Coedwigaeth” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007LL+C
42. Yn rheoliad 7 o Reoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007(), yn lle “Chyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Chorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007LL+C
43. Mae Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
44.—(1) Yn rheoliad 2(1), mae'r diffiniad o “cyrff ymgynghori” wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (a), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
(3) Hepgorer is-baragraff (b).
45. Yn rheoliad 5(7)(ch), hepgorer “gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru”.
Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008LL+C
46. Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
47.—(1) Mae rheoliad 6 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y diffiniad o “yr Asiantaeth”.
(3) Yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;”.
48. Yn rheoliadau 7(1)(a), 8(3) a 13A i 13CH, yn lle “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.
49. Yn rheoliad 49, yn lle “yr Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “CANC”.
50. Yn Atodlen 4, ym mharagraff 19(1) a (2), yn lle “i'r Asiantaeth” rhodder “i CANC”.
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009LL+C
51. Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
52.—(1) Mae rheoliad 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a)cyn “Asiantaeth yr Amgylchedd”, yn y man cyntaf lle y mae'n ymddangos, mewnosoder “naill ai Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu”;
(b)yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, yn yr ail fan lle y mae'n digwydd, rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
(3) Ym mharagraff (3)(b)—
(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;
(b)ym mharagraff (iii), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
53.—(1) Mae rheoliad 11 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl, yn y drydedd golofn—
(a)yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;
(b)yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
54. Yn rheoliad 31(2), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009LL+C
55. Yn erthygl 3(2)(a) o Orchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009(), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009LL+C
56.—(1) Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “y cyrff ymgynghori”, yn is-baragraff (b)—
(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;
(b)hepgorer paragraff (iii).
(3) Yn y diffiniad o “ardal sensitif”, yn is-baragraff (e), yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010LL+C
57. Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
58.—(1) Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y diffiniad o “Asiantaeth yr Amgylchedd”.
(3) Yn y man priodol, mewnosoder—
“ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;”.
59. Yn rheoliadau 3(1)(c)(i) a 7 i 9, ac yn Atodlen 2, ym mharagraffau 5(1)(b) a 7, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” ac “Asiantaeth”, ym mhob man lle y maent yn digwydd, rhodder “CANC”.
Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010LL+C
60. Yn erthygl 2 o Orchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010(), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”().
Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010LL+C
61. Mae Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
62. Yn erthygl 9(8)(a) a phennawd erthygl 21, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
63. Yn Atodlen 4, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (gan gynnwys ym mhennawd yr Atodlen honno), rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 2010LL+C
64. Yn erthygl 4(1)(a) o Orchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 2010(), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011LL+C
65. Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru 2011() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
66. Yn erthyglau 18(1) ac 19(1), ar ôl “gan neu ar ran” mewnosoder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu”.
67. Yn erthygl 25(1), yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011LL+C
68. Yn rheoliad 1(c)(ii) o Reoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011(), ar ôl “Asiantaeth yr Amgylchedd” mewnosoder “a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011LL+C
69. Mae Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
70. Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “y system WasteDataFlow”, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
71. Yn rheoliad 3(1), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011LL+C
72. Mae Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
73. Yn erthygl 3(3), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
74.—(1) Mae erthygl 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a)yn is-baragraff (b), yn lle “cyfeiriad yn adran 157(6)(a)” rhodder “cyfeiriadau yn adran 157(6)(a) a (7)(a)”;
(b)yn is-baragraff (c), ar ôl “i (e)” mewnosoder “a (7)(c)”.
(3) Ym mharagraff (3), ar ôl “ei roi i” mewnosoder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru neu”.
75.—(1) Mae erthygl 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;
(b)yn is-baragraff (c)—
(i)yn y geiriau agoriadol, hepgorer “yn lle'r geiriau “the Agency””;
(ii)ym mharagraff (i), ar y dechrau mewnosoder “yn lle'r geiriau “the Agency or the NRBW” in”;
(iii)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
“(ia)yn lle'r geiriau “the Agency or, as the case may be, by the NRBW” in section 154(2);”;
(iv)ym mharagraff (ii), yn lle “yn y man lle y maent yn ymddangos” rhodder “yn lle'r geiriau “the Agency or the NRBW””;
(v)ym mharagraff (iii), yn lle “yn y man lle y maent yn ymddangos am yr ail a'r trydydd tro” rhodder “yn lle'r geiriau “the Agency or the NRBW” a “the Agency or, as the case may be, the NRBW””;
(c)ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—
“(d)bod adran 154(7) wedi ei hepgor.”
(3) Ym mharagraff (2)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “The Agency” mewnosoder “and the NRBW”;
(b)yn is-baragraff (b)—
(i)ar ôl “the Agency” mewnosoder “or, as the case may be, the NRBW”;
(ii)hepgorer “a (6)”;
(c)yn is-baragraff (c), ar ôl “157(2)(b)” mewnosoder “a (6)”;
(d)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
“(ca)bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the NRBW” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(7);”;
(e)yn is-baragraff (ch), yn lle “157(6)(a)” rhodder “157(7)(a)”;
(f)yn is-baragraff (d), yn lle “157(6)(c) i (e)” rhodder “157(7)(c)”.
76.—(1) Mae erthygl 6 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a)yn is-baragraff (a)—
(i)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “Agency” mewnosoder “or by the NRBW”;
(ii)ym mharagraff (ii), hepgorer “am y tro cyntaf”;
(b)yn is-baragraff (b)—
(i)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;
(ii)ym mharagraff (ii), hepgorer “am yr eildro”.
(3) Ym mharagraff (2)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “Agency” mewnosoder “or by the NRBW”;
(b)yn is-baragraff (b), ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;
(c)yn is-baragraff (ch), ar ôl “171(2)(b)” mewnosoder “a (6)”.
(4) Ym mharagraff (3)—
(a)yn is-baragraff (dd)—
(i)ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;
(ii)hepgorer “ac 8”;
(b)ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—
“(fa)bod y geiriau “or a local authority” wedi eu rhoi yn lle “, the Agency or the NRBW” ym mharagraff 8(1);”.
77. Yn erthygl 8, yn lle “Agency”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “appropriate agency”.
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012LL+C
78. Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
79.—(1) Mae erthygl 27(3) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (b), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
(3) Hepgorer is-baragraff (c).
80.—(1) Yn Atodlen 4, mae'r Tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
(3) Yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “ Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.