Erthygl 4(2)
1. Yng nghyfarwyddyd 4(1) o Gyfarwyddyd Mesurau Diogelwch a Brys (Ymgymerwyr Dŵr a Charthffosiaeth) 1998, ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)The Natural Resources Body for Wales;”.
2. Mae Gorchymyn Asiantaeth yr Amgylchedd (Afon Dyfrdwy) (Cyfyngu ar Eogiaid a Sewin) 2004 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
3. Yn enw'r Gorchymyn ac yn erthygl 1, ar ôl “Environment Agency” mewnosoder “and Natural Resources Body for Wales”.
4. Yn erthyglau 5 a 9, yn lle “Agency” rhodder “appropriate agency”.
5. Mae Gorchymyn Asiantaeth yr Amgylchedd (Cyfyngu ar Drwyddedau Pysgota â Rhwydi) (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
6. Yn enw'r Gorchymyn ac yn erthygl 1(1), yn lle “Environment Agency” rhodder “Natural Resources Body for Wales”.
7.—(1) Mae erthygl 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y diffiniadau a ganlyn—
(a)“the Agency”;
(b)“the Agency’s area”.
(3) Ar ddiwedd y diffiniad o “licence”, hepgorer “and”.
(4) Yn y diffiniad o “net licence officer”, yn lle “Agency” ac “Agency's”, ym mhob man lle y maent yn digwydd, rhodder “NRBW” ac “NRBW's” yn eu tro.
(5) Yn y mannau priodol mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—
““the NRBW” means the Natural Resources Body for Wales;”;
““the NRBW’s area” means the area in respect of which the NRBW carries out its functions relating to fisheries pursuant to section 6(7A) of the Environment Act 1995.”
8. Yn erthyglau 3 a 4, yn lle “Agency's” ac “Agency”, ym mhob man lle y maent yn digwydd, rhodder “NRBW's” ac “NRBW” yn eu tro.
9. Yn erthygl 5, yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Subject to article 8(2), all applications for licences for each year pursuant to this Order must be made to the NRBW not later than the 31st day of December in the previous year.”
10.—(1) Mae erthygl 6 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraffau (1) a (3) i (6), yn lle “Agency” ac “Agency's”, ym mhob man lle y maent yn digwydd, rhodder “NRBW” ac “NRBW's” yn eu tro.
(3) Yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) The NRBW must publish the criteria referred to in paragraph (1) of this article, and make them available for public inspection at its offices.”
11. Yn erthygl 7(1), yn lle “Agency's” ac “Agency” rhodder “NRBW's” ac “NRBW” yn eu tro.
12.—(1) Mae'r Atodlen wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1—
(a)hepgorer colofn 3;
(b)yn y cofnod ynglŷn ag afonydd Cleddau Ddu a Chleddau Wen, yn lle “Agency” rhodder “NRBW”.
(3) Yn Rhan 2, hepgorer colofn 3.