RHAN 3YMHOLIADAU A RHOI GWYBODAETH

Ffurf yr wybodaeth y gofynnir amdani

12.—(1Rhaid i'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei rhoi yn unol â'r Rheoliadau hyn gael ei rhoi i Weinidogion Cymru yn y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, bydd llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru yn bodloni'r gofyniad hwn.

(3Llofnod electronig (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig sydd—

(a)wedi ei ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi ei gysylltu'n rhesymegol â hwy; a

(b)yn honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i gadarnhau bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau.