16.—(1) Nid oes gan fyfyriwr cymwys mewn sefydliad Ewropeaidd hawl i gael unrhyw gymorth ar gyfer blwyddyn o ailadrodd astudiaethau.
(2) ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” (“year of repeat study”) yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi ymgymryd â hi o'r blaen ond y mae'r sefydliad Ewropeaidd yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd â hi eto.