Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 7

ATODLEN 1MYFYRWYR CYMWYS

RHAN 1

Dehongli

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) oni nodir fel arall yw—

(a)

o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE—

(i)

priod y person hwnnw neu ei bartner sifil;

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

(b)

o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil; neu

(ii)

plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

(c)

o ran gwladolyn o'r UE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(d)

o ran gwladolyn o'r UE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(e)

o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan yr Undeb Ewropeaidd, Gweriniaeth Iwerddon, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(1);

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o'r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(2) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(3) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(4);

ystyr “gweithiwr” yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—

(a)

sy'n weithiwr yng Nghymru; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd a oedd ar y dyddiad perthnasol—

(a)

yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a

(b)

mewn cyflogaeth gyfreithlon, neu wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o'r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson cyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

(a)

o ran gwladolyn o'r AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

(b)

o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(5).

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o'r ardaloedd hynny er mwyn ymgymryd—

(a)â'r cwrs cyfredol, y cwrs dysgu o bell cyfredol, y cwrs rhan-amser cyfredol neu'r cwrs ôl-raddedig cyfredol; neu

(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn union cyn ymgymryd â'r cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a),

i'w ystyried yn berson sy'n preswylio fel arfer yn y lle y symudodd y person ohono.

(3At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P” yn yr is-baragraff hwn) i gael ei drin fel person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)P;

(b)priod neu bartner sifil P;

(c)rhiant P; neu

(d)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i'r ardal o dan sylw.

(4At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd; a

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o'r cyfryw luoedd.

(5At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Cynllun hwn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall, neu o'r ddwy, o'r ardaloedd hyn,

i'w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac eithrio yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel person sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(3).

3.  Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)mewn achos lle'r oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Ffoaduriaid ac aelodau o'u teuluoedd

4.—(1Person sydd—

(a)yn ffoadur;

(b)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur gais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur gais am loches, yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(d)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(e)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o'u teuluoedd

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i) ei gais am loches; neu

(ii)ei gais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)ei gais am loches; neu

(ii)ei gais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)ei gais am loches;

(ii)ei gais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches;

(d)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(e)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluoedd

6.—(1Person sydd—

(a)ar y dyddiad perthnasol—

(i)yn weithiwr mudol o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig o'r AEE;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr AEE neu'n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;

(v)yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7.  Person sydd—

(a)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(b)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(c)â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud(6), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â'r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(e)mewn achos lle'r oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio—

(a)os yw'r person hwnnw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd â hawl i breswylio'n barhaol sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig; neu

(b)yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'r person yn mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn iddi neu y mae'r person y mae'n aelod o'i deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

Gwladolion o'r UE

9.—(1Person—

(a)sydd naill ai—

(i)yn wladolyn o'r UE ar y dyddiad perthnasol, ac eithrio person sy'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu

(ii)yn aelod o deulu person o'r fath;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu ei breswylio arferol yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel person sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(3).

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o'r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw'r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig.

10.—(1Person—

(a)sydd ar y dyddiad perthnasol yn wladolyn o'r UE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)mewn achos lle'r oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r UE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

Plant gwladolion Swisaidd

11.  Person—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth ariannol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos lle'r oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Plant gweithwyr Twrcaidd

12.  Person—

(a)a oedd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(1)

OJ L158, 30.04.2004, tt.77-123.

(2)

Gorch. 4904.

(3)

Gorch. 2073.

(4)

Gorch. 2183.

(5)

1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).

(6)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE 1968 (II) t.475).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources