RHAN 2CAFFAEL A MEDDU AR DIR

Atodol

Diddymu neu atal hawliau preifat14.

(1)

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl preifat dros y tir a ddangosir â'r rhifau 1, 1a, 1b, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 a 12 ar blan y tir wedi eu diddymu—

(a)

o'r dyddiad pryd y caffaelwyd y tir gan Network Rail, boed hynny drwy orfodaeth neu drwy gytundeb; neu

(b)

ar y dyddiad mynediad ar y tir gan Network Rail o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965,

p'un bynnag sydd gynharaf.

(2)

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl preifat dros y tir y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu a restrir yn Atodlen 2 (tir na chaniateir ond caffael hawliau newydd ar ei gyfer) wedi eu diddymu i'r graddau y byddai eu parhad yn anghyson ag arfer hawliau a awdurdodir i'w caffael o dan y Gorchymyn hwn—

(a)

o'r dyddiad pryd y mae Network Rail yn eu caffael, boed hynny drwy orfodaeth neu drwy gytundeb; neu

(b)

ar y dyddiad mynediad ar y tir gan Network Rail o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965 yn unol â'r hawl,

p'un bynnag sydd gynharaf.

(3)

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros unrhyw dir y Gorchymyn sy'n eiddo i Network Rail (ac eithrio'r tir a bennir yn Atodlen 2 neu Atodlen 3 (tir y caniateir cymryd meddiant dros dro ohono)) ac sy'n ofynnol at ddibenion y Gorchymyn hwn yn cael eu diddymu ar adeg perchnogi'r tir at unrhyw un o'r dibenion hynny gan Network Rail.

(4)

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros dir y mae Network Rail yn cymryd meddiant dros dro ohono o dan y Gorchymyn hwn wedi eu hatal ac nid oes modd eu gorfodi cyhyd ag y bo Network Rail yn parhau â meddiant cyfreithlon o'r tir.

(5)

Mae gan unrhyw berson sy'n dioddef colled oherwydd diddymu neu atal unrhyw hawl breifat o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad sydd i'w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(6)

Nid yw'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hawl tramwy y mae adran 271 neu 272 o Ddeddf 1990 (diddymu hawliau ymgymerwyr statudol, etc.) yn gymwys iddynt.

(7)

Mae paragraffau (1), (2), (3) a (4) yn cael effaith, yn ddarostyngedig i—

(a)

unrhyw hysbysiad a roddir gan Network Rail cyn cwblhau'r broses o gaffael y tir, cyn i Network Rail ei berchnogi, cyn i Network Rail fynd arno neu cyn i Network Rail gymryd meddiant dros dro ohono nad oes un neu ragor o'r paragraffau hynny neu nad yw'r holl baragraffau hynny yn gymwys i unrhyw hawl tramwy a bennir yn yr hysbysiad; a

(b)

unrhyw gytundeb sy'n cyfeirio at yr erthygl hon (boed wedi ei wneud cyn neu ar ôl unrhyw un o'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (a) a chyn neu ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym) rhwng Network Rail a'r person y mae'r hawl tramwy dan sylw wedi ei freinio ynddo neu'n perthyn iddo.

(8)

Os mynegir bod unrhyw gytundeb o'r fath fel a grybwyllir ym mharagraff (7)(b) yn cael effaith hefyd er budd y rhai y mae eu teitl yn deillio o'r person neu o dan y person hwnnw y mae'r hawl tramwy dan sylw wedi ei breinio ynddo neu y mae'n berchennog arni, mae'n effeithiol mewn perthynas â'r personau y mae'r cyfryw deitl ganddynt, boed y deilliodd y teitl cyn neu ar ôl gwneud y cytundeb.

(9)

Nid yw cyfeiriad yn yr erthygl hon at hawliau preifat dros dir yn cynnwys hawliau comin, ond mae'n cynnwys cyfeiriad at unrhyw ymddiriedolaethau neu nodweddion y mae'r tir yn ddarostyngedig iddynt.