Gorchymyn Network Rail (Pont Briwet) (Caffael Tir) 2013

RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Network Rail (Pont Briwet) (Caffael Tir) 2013 ac mae'n dod i rym ar 16 Ebrill 2013.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw strwythur neu adeiledd, neu unrhyw ran o adeilad, strwythur neu adeiledd;

mae “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion trosglwyddiad electronig;

ystyr “y cyfeirlyfr” (“the book of reference”) yw'r cyfeirlyfr a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel y cyfeirlyfr at ddibenion y Gorchymyn hwn;

mae “cynnal a chadw” (“maintain”, “maintenance”) yn cynnwys archwilio, cynnal a chadw, trwsio, addasu, newid, symud, ailadeiladu ac amnewid;

ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Digolledu Tir 1961(1);

ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol 1965(2);

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3);

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(4);

ystyr “gweithfeydd awdurdodedig” (“authorised works”) yw'r gweithfeydd a awdurdodir gan Ddeddf Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru (Cyffredinol) 1865(5) ar gyfer ailadeiladu rheilffordd a phont a'r ffyrdd tuag atynt ym Mhont Briwet;

ystyr “Network Rail” (“Network Rail”) yw Network Rail Infrastructure Limited (Rhif Cwmni 02904587) sydd â'i swyddfa gofrestredig yn Kings Place, 90 York Way, Llundain N1 9AG;

mae i “perchennog”, mewn perthynas â thir, yr un ystyr ag a roddir i “owner” yn Neddf Caffael Tir 1981(6);

ystyr “plan y tir” (“land plan”) yw'r plan a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel plan y tir at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “tir y Gorchymyn” (“the Order land”) yw'r tir a ddangosir ag ymyl coch ac wedi ei liwio'n binc neu las ar blan y tir;

ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yw'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd);

“trosglwyddiad electronig” (“electronic transmission”) yw cyfathrebiad a drosglwyddir—

(a)

drwy rwydwaith gyfathrebu electronig; neu

(b)

drwy ddull arall ond tra bo ar ffurf electronig;

ystyr “yr ymgymeriad” (“the undertaking”) yw ymgymeriad rheilffordd Network Rail fel y mae'n bodoli o bryd i'w gilydd.

(2Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir, arno neu odano, neu yn y gofod awyr sydd uwchben ei arwynebedd.